Gŵyl Haf Henllan
Dydd Sadwrn 7fed a Dydd Sul 8fed Gorffennaf 2018
Dathliad o Fywyd Gwyllt, Ffyniant a Diwylliant
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, nod yr ŵyl hon yw arddangos goreuon bywyd gwyllt, ffyniant a diwylliant lleol y gymuned, o nos Sadwrn drwodd i fore a phrynhawn Sul.
Bydd yr Ŵyl yn dechrau gyda chyngerdd “Ysbrydoliaeth yr Ifanc” i’w gynnal yn Neuadd Eglwys Henllan ar nos Sadwrn 7fed Gorffennaf. Gyda’r gerddoriaeth yn dechrau am 19.00, bydd diodydd ar gael yn y Neuadd o 18.00 ymlaen.
Bydd cyngerdd yr hwyr yn rhoi llwyfan i gantorion a cherddorion ifanc lleol berfformio mewn awyrgylch hudol o flaen cynulleidfa werthfawrogol. Mae tocynnau’n £6.00 i oedolion a £2.00 i blant dan 16 oed.
Yn y bar yn y Neuadd bydd ychydig o ysbrydoliaeth o’r Ardd Wenyn, gan gynnwys Gwin Pefriog gyda Blodau Ysgaw a Choctel Sudd Afal Gwasgedig, Leim a Mintys.
Ymhlith y cerddorion mae:
- Ruth Erin Roberts (Lleisiol)
- Erin Swyn Williams (Lleisiol)
- Denbighshire Youth Brass Band (Brass Band)
O 10:00 ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf yn Neuadd yr Eglwys bydd gweithdy crefft a gweithgareddau eraill ar gyfer pob oed, gan gynnwys y canlynol:
Gweithdai crefft* gydag artist lleol, Iona Edwards-Jones:
- Oedolion: 10.00 – 11.15 (pris £3.00)
- Plant: 11.45 – 13.00 (50c)
(*Mae angen cadw lle yn y gweithdai: ffoniwch 01745 812 865)
Therapi Cyfannol rhwng 10.00 a 14.00 – sesiynau 15 munud gyda Myra Pritchard (£3.00).
Am 13.00 fe fydd taith leol gerdded gymedrol 1 awr gydag Eleri Wynne yn cychwyn o’r Neuadd (rhad ac am ddim).
Fel arall am 13.30 bydd taith gerdded dywysedig o gwmpas dwy o erddi pentref Henllan yn cychwyn yng Ngardd Wenyn y Neuadd (rhad ac am ddim)
Yn union cyn y Te Mefus am 14.00 bydd John Fleet yn rhoi sgwrs am ‘Wenyn’
Yna daw Gŵyl Haf Henllan i ben gyda The Thema Mefus yn y Neuadd a Chwis gan Peter Smith a John Fleet i wella gwybodaeth leol a gwybodaeth am wenyn.
Mae’r ŵyl yn cynnwys casgliad o grefftau a gynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Henllan a thrigolion lleol sydd i’w cael o gwmpas y pentref ac sy’n ffurfio rhan o Arddangosfa ‘Celf Gŵyl Haf Henllan’ i ddathlu bywyd gwyllt yn ogystal ag arddangosfa ffotograffiaeth gan Janice Johnson: ffotograffau a ysbrydolwyd gan Ardd Wenyn Henllan.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar www.henllan.cymru neu 01745 812 865
Mae modd prynu tocynnau’r Cyngerdd Hwyrol a’r Te Thema Mefus yn Swyddfa’r Post Henllan neu 01745 812 865.
Croeso i bawb
Gŵyl Haf Henllan
Saturday 7th July and Sunday 8th July 2018
A Celebration of Wildlife, Wellbeing and Culture
Now in its fourth year, the aim of this festival is to showcase the best of the community’s wildlife, wellbeing and local culture, from Saturday evening through to Sunday morning and afternoon.
The Festival will start with a concert called “Ysbrydoliaeth yr Ifanc” (Inspiration of Youth) held in the Henllan Church Institute on Saturday evening 7th July. With the music starting at 19.00, drinks will be available in the Institute from 18.00.
The evening concert will provide a platform for young local singers and musicians to perform in a magical location in front of an appreciative audience. Tickets are £6.00 for adults and £2.00 for children under 16 years of age.
The bar in the Institute with have a touch of inspiration from the Bee Garden which will include Sparkling Wine with Elderflower and Pressed Apple Juice, Lime and Mint Cocktail.
The music line up will include:
- Ruth Erin Roberts (Vocal)
- Erin Swyn Williams (Vocal)
- Band Pres Ieuenctid Sir Ddinbych (Brass Band)
From 10:00 on Sunday 8th July the Church Institute will feature a craft workshop and other activities for all age groups including:
Craft workshops* with local artist, Iona Edwards-Jones:
- Adults: 10.00 – 11.15 (Cost £3.00)
- Children: 11.45 – 13.00 (50p)
(*Places need to be reserved for the workshops: call 01745 812 865)
Holistic Therapy between 10.00 and 14.00 – 15 minutes sessions with Myra Pritchard (£3.00).
At 13.00 there will be a 1 hour moderate local walk with Eleri Wynne starting from the Institute (free).
Alternatively at 13.30 there will be a guided garden walk around two Henllan village gardens starting at the Institute Bee Garden (free)
Just before the Strawberry Tea at 14.00 John Fleet will give a talk about ‘Bees’
Gŵyl Haf Henllan will then finish off with a Strawberry Theme Tea in the Institute and a Quiz to improve local and Bee knowledge by Peter Smith and John Fleet.
The festival includes a collection of crafts produced by Ysgol Henllan pupils and local residents that can be found around the village and forms part of the Arddangosfa ‘Celf Gŵyl Haf Henllan’ to celebrate wildlife as well as a photography display by Janice Johnson: photos inspired by Henllan Bee Garden.
Further information can be found on www.henllan.cymru or 01745 812 865
Tickets for both Evening Concert and Strawberry Theme Tea can be purchased at Henllan Post Office or 01745 812 865.
All Welcome