COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED HENLLAN NOS FAWRTH 1AF RHAGFYR 2020 AM 7.30 TRWY GYFRWNG ZOOM.
PRESENNOL: Y Cynghorwyr Nicky Bassett-Powell (Cadeirydd), Geraint Williams, Martin Pritchard, Dewi Jones, John Bellis, Merfyn Roberts, Gwyn Roberts a’r Clerc.
1: CROESAWU AELOD NEWYDD.
Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd aelod newydd y Cyngor, sef Martin Pritchard.
2. YMDDIHEURIADAU: Y Cynghorwyr Amanda Lawson a Clwyd Spencer a’r Cynghorydd Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams.
3. DATGANIADAU DIDDORDEB: Dim.
4. CADARNHAU COFNODION CYFARFOD DIWETHAF Y CYNGOR.
Cadarnhawyd cofnodion 3ydd Tachwedd 2020 a’u harwyddo gan y Cadeirydd.
5. MATERION YN CODI O’R COFNODION.
A. Roedd y Cynghorydd Amanda Lawson wedi gosod torch ar ran y Cyngor Cymuned yng ngwasanaeth Sul y Coffa.
B. Diolchodd Cadeirydd timau ieuenctid Clwb Peldroed Henllan i’r Cyngor am y grant hael o £300.00.
6. SAFLE HEN DOMEN SBWRIEL HENLLAN.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Pwyllgor y Safle wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.
7. PARC UCHAF HENLLAN.
Dim gwybodaeth bellach.
8. CYFYNGIADAU COFID-19.
Penderfynwyd bod Toiledau Cyhoeddus i aros ar gau ar hyn o bryd.
9. SEDD WAG Y CYNGOR.
Dywedodd y Clerc fod dau gais wedi dod i law, sef Jackie Jones a Dominic Harrison. Wedi ystyried y wybodaeth a gynigwyd gan y ddau ymgeisydd, penderfynwyd cyfethol Jackie Jones.
10. CYLLID.
A. Arian mewn llaw £21,707.79.
B. Taliadau a awdurdodwyd:-
1. North West Christmas Tree Company – £108.00 am Goeden i’r Gymuned.
2. Cyflog y Clerc am y tri mis hyd at 31ain Rhagfyr 2020 £420.00.
3. Treth Incwm am y tri mis hyd at 31ain Rhagfyr 2020 £105.00.
11. MATERION CYNLLUNIO.
Dim.
12. GOHEBIAETH.
Cais gan gwmni Artisan-Memorials a gomisiynwyd gan eu cleiant Ms. Angharad Adey-Jones i greu cofeb i’r ddiweddar Edith Adey-Jones, am wybodaeth am reolau yn ymwneud a chofebion ym mynwent Eglwys Sant Sadwrn, Henllan. Bydd y Cynghorydd Martin Pritchard yn cysylltu’n uniongyrchol a’r cwmni.
13. MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH.
Cafwyd neges gan y Cynghorydd Sir Geraint Lloyd-Williams yn nodi sawl pwynt:-
A; Y Cyngor Sir yn raddol yn ailafael yn y cyfarfodydd arferol (ar lein) ac agweddau ar y pandemic yn brif fater i gael sylw.
B. Y Cynllun Datblygu Lleol yn debyg o gael ei estyn am gyfnod pellach a’r un newydd o’r newydd yn dechrau’n hwyrach.
C. Y Grŵp Annibynnol y mae Geraint Lloyd-Williams yn aelod ohono wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn mynegi eu pryderon am fusnesau lleol nad ydynt yn gynnwys i gael cymorth ariannol, ond heb gael ei ymateb hyd yn hyn.
D. Y Grŵp Annibynnol yn paratoi llythyr arall yn gofyn am dystiolaeth i brofi bod gosod yr un cyfyngiadau trwy Gymru yn rhagori ar sustem o haenau ar gyfer gwahanol ardaloedd.
14. MATERION BRYS O DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
A. Bydd y Cadeirydd yn anfon manylion canolfan profion Cofid-19 sydd yn Rhuthun ar hyn o bryd at yr Aelodau.
B. Bydd y Clerc o hyn allan yn anfon copi Cymraeg o’r cofnodion, sydd yn dal i gael eu cyfieithu gan Peter Smith.
15. CYFARFOD NESAF Y CYNGOR – Nos Fawrth, 5ed Ionawr 2021 am 7.30 o’r gloch.
16. CAEODD Y CADEIRYDD Y CYFARFOD AM 8.30 P.M.

