COFNODION CYFARFOR CYNGOR CYMUNED HENLLAN NOS FAWRTH 6ED MAI 2025 AM 7.30 YN NEUADD YR EGLWYS HENLLAN
1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie, Merfyn Roberts, Cerian Jones, Geraint Williams, Gwyn Roberts, Helen Clift, Nia Bellis. Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Delyth Jones
2.YMDDIHEURIADAU
Y Cynghorwyr Nathan Penfold, Clwyd Spencer a Chynghorydd Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Dim
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD
Neb yn bresennol
5.CADARNHAU COFNODION CYFARFOD DIWETHAF Y CYNGOR
Cadarnhawyd cofnodion 1af Ebrill 2025 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
6.MATERION YN CODI O’R COFNODION
7.ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN
Gofynnodd y Cynghorwyr am gymorth pobl sydd a diddordeb yn y Cynllun “ Speed Watch”.Dylent gysylltu ag Ian Carrie ( iancarrie@pc2kworld.co.uk. Roedd Alan Roberts eisioes wedi mynegi diddordeb.
8.COEDLAN HENLLAN
Mae’r Cynghorwyr yn aros i Gyngor Sir Ddinbych osod arwydd wrth y fynedfa. Mae’r Cynghorydd Carrie yn holi am y pyst ger y fynedfa.
9.Y PARC UCHAF
Roedd y Cynghorydd Nia Bellis wedi awgrymu y gallai bod modd defnyddio trefn dan adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.Oherwydd prinder staff yn Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Ddinbych,ni chafwyd ateb pendant eto
10.CAIS AM DDEFNYDDIO ARIAN A GYFNEWIDWYD
Caradnhaodd y Cynghorydd Ian Carrie fod Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cais am ddefnyddio’r arian yma. Y bwriad yw ei ddefnyddio yn y Parc Uchaf ar gyfer ffens i sicrhau na chaiff y wal gerrig sych ragor o ddifrod. Dechrau Ebrill oedd y dyddiad cau, felly disgwylir ateb yn fuan.
11.RHESTR ASEDAU CYNGOR CYMUNED HENLLAN
Aeth y Cynghorydd Ian Carrie drwy’r rhestr sy’n cynnwys Cofeb Ryfel Henllan a’r rheiliau o’I blaen. Mae CCH yn gobeithio cael peintio’r rheiliau cyn Sul y Cofio eleni.Penderfynwyd cynnwys “ Mainc Olive “o flaen y Siop yn y rhestr asedau a chael amcanbris am un newydd
12.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU HENLLAN
Mae Cadeirydd y Cyngor Jackie Jones yn mynd I gael planhigion. Mae’r Cynghorydd Ian Carrie wedi cael derbynneb am y rhai sydd wedi eu prynu eisioes.
13.GWEFAN A CHYSYLLTIADAU Y CYNGOR
Roedd Nathan Penfold ac Ian Carrie wedi trafod y mater ac wedi penderfynnu mai doeth fyddai cychwyn gwefan newydd yn hytrach nag addasu’r hen un. Eir ymlaen a’r gwaith pan fydd y Cynghorydd Nathan Penfold yn teimlo’n well.
14.UN LLAIS CYMRU – CYRSIAU HYFFORDDI
Disgwylir derbyn y rhestr ddiweddaraf.
15.CYRSIAU COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH
Mae’r Cynghorwyr wedi derbyn y manylion ynglyn a’r cyrsiau sydd ar gael.
16.CYLLID
Mae’r Trysorydd dros dro, Ian Carrie a’r Cadeirydd Jackie Jones wedi bod yn y Banc HSBC yn y Rhyl ac wedi gwneud cais I newid yr enwau ar y Cyfrif. Ni chafwyd cadarnhad eto fod y newidiadau weid eu derbyn.
17.CAIS CYNLLUNIO
Derbyniwyd cais adeilad rhestredig ar gyfer Ty’r Garn, Henllan. Ni wnaed unrhyw wrthwynebiad na sylw gan y Cynghorwyr.
18.GOHEBIAETH
Derbyniwyd anfoneb gan Un Llais Cymru
19.MATERION FFYRDD
Cafwyd cadarnhad y bydd Ffordd Meifod yn cael sylw yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf – wyneb newydd neu lenwi’r tyllau yn iawn.
20.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Dywedodd y Cynghorwyr Sir a oedd yn bresennol fod swydd newydd “ Swyddog Cyswllt “ wedi ei chreu ac mai Kate Chew a benodwyd.
21.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B (A) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
22.CYFARFOD NESAF Y CYNGOR – NOS FAWRTH 3YDD MEHEFIN 2025 AM 7.30 YN NEUADD YR EGLWYS HENLLAN