COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED HENLLAN NOS FAWRTH 3YDD MEHEFIN 2025 AM 7.30 YN NEUADD YR EGLWYS HENLLAN
1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd) Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Cerian Jones, Geraint Williams, Helen Clift, Clwyd Spencer
2.YMDDIHEURIADAU
Y Cynghorwyr Ian Carrie, Nathan Penfold, Cynghorwyr Sir Ddinbych Geraint Lloyd Williams, Pauline Edwards, Delyth Jones
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Dim
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD
Neb yn bresennol
5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cadarnhawyd cofnodion 6ed Mai 2025 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
6.MATERION YN CODI O’R COFNODION
Dim
7.MESURAU ARAFU TRAFNIDIAETH YN HENLLAN
Ni dderbyniwyd adroddiad hyd yma
8.COEDLAN HENLLAN
Nid yw’r arwydd wedi cyrraedd hyd yn hyn. Bydd Ian yn cadarnhau . Dal i ddisgwyl am hanes y pyst.
9.Y PARC UCHAF
Mae Nia yn dal i ddisgwyl am ateb i’w hebost at Rebecca Williams
10.CAIS AM GYLLID WEDI EI GYMUDO
Dim ymateb hyd yn hyn
11.ASEDAU’R CYNGOR , GAN GYNNWYS MEINCIAU
Mae’r rhestr gyfredol gan Ian.
Mae mainc Olive wrth y siop yn cael ei harchebu.
Mae’r hysbysfwrdd newydd yn barod i gael ei gasglu.
12.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU HENLLAN
Yn disgwyl am y planhigion i’w plannu.
Byddai Cyngor Cymuned Henllan yn hoffi diolch i Angeline a Frank Lawson am roi a phlannu’r blodau ar gyfer Maes yf Efail
13.AROLWG O WEFAN A CHYFRYNGAU CYMDEITHASOL Y CYNGOR
Bydd Ian a Nathan yn trafod eto pan ddychwelant . Trafodaeth am bosibilrwydd trosglwyddo gwybodaeth o’r hen wefan i’r un newydd.
14.CYRSIAU HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU
Y manylion wedi eu hafnon eisioes drwy ebost.
15.CYRSIAU COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH
Bydd Merfyn yn mynychu’r cwrs sy’n cael ei gynnal ar 26 Mehefin 2025.
16.CYLLID AC AROLWG ARIANNOL EBRIL 2025 CYNGOR CYMUNED HENLLAN
Mae Jackie wedi arwyddo gwaith papur yr Arolwg.
17.CEISIADAU CYNLLUNIO
Dim wedi dod I law erbyn 18 Mai 2025
- YSTYRIED CEISIADAU A DDYFARNWYD CYN Y CYFARFOD
Dim
18.GOHEBIAETH
Dim
19.MATERION FFYRDD
Dim
20.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Dim un o’r Cynghorwyr Sir yn bresennol
21.MATERION BRYS O DAN ADRAN 100B (4) DEDDF LLYWODRAWTH LEOL1972
Awgrymodd Nia y dylid cwyno bod Cyngor Sir Ddinbych wedi pernderfynnu peidio ail godi Pont Llannerch. Gallai hyn o leiaf ddangos cefnogaeth i bentrefi Trefnant a Tremeirchion
22.CYFARFOD NESAF Y CYNGOR
Nos Fawrth 1af Gorffennaf am 7.30pm yn Neuadd yr Eglwys Henllan
Bu trafodaethau hefyd ynglyn a’r materion canlynol :-
Hysbysu swydd y Clerc a’r cyflog
Arafu cerbydau yn Henllan
Nid yw’r Cynghorydd Geraint Williams wedi ymddiswyddo
Wythnos Cymorth Cristnogol – Casglwyd cyfanswm o £680.11 gan gynnwys y Capel , yr Eglwys, y Siop a’r Brecwast Mawr.
Yn anffodus, gwnaed ymddiswyddiad Geraint Williams drwy e-bost ac roedd wedi cael ei dderbyn gan Gyngor Sir Ddinbych Roedd swydd wag ar gyfer Cynghorydd newydd i’w hysbysebu. Hoffem ni i gyd yng Nghyngor Cymuned Henllan ddiolch i Geraint am ei waith a wnaed ar ran trigolion Henllan.

