1.PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones( Cadeirydd) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Nia Bellis Gwyn Roberts Merfyn Roberts Clwyd Spencer a’r Clerc Stephanie Kelly

2.YMDDIHEURIADAU

Y Cynghorwyr Nathan Penfold Helen Clift Tom Marshall a Cerian Jones a Chynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards Delyth Jones a Geraint Lloyd-Williams

3.DATGANIADAU DIDDORDEB

Dim

4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYNGOR

Hoffai Mr Glyn Jones ar ran preswylwyr Glasfryn a Maes Sadwrn drafod datblygiad Cil y Coed sydd wedi golygu iddynt golli preifatrwydd a diogelwch. Hoffent wybod beth sydd i gymryd eu lle , boed yn ffens neu goed

5.ADOLYGU COFNODION DRAFFT CYN IDDYNT GAEL EU HARWYDDO

Cadarnhawyd y dylid newid y cyfeiriad at “ Cae Peldroed” i “ Maes Chwarae”

6.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Cadarnhawyd Cofnodion 4ydd Tachwedd 2025 a’u harwyddo gan y Cadeirydd

7.MESURAU TAWELU TRAFFIG YN HENLLAN

Mae Alan Roberts bellach wedi cwblhau’r hyfforddiant

8.COEDLAN HENLLAN

Gosodir yr arwyddion ym mis Mawrth 2026

9.Y PARC UCHAF

Dim newydd gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae Nia Bellis wedi anfon ebost ond heb dderbyn ateb. Bydd yn anfon eto gyda chopi i aelodau Cyngor Sir Ddinbych.

  1. CYLLID GOHIRIEDIG

Mae Ian wedi derbyn ebost gan Chris. Penderfynwyd heno mai ni fydd yn talu am y netin ar gyfer y maes chwarae

11.PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF

Wedi trafod hefo’r Clwb Peldroed, penderfynwyd bod Cyngor Cymuned Henllan yn peidio cyfrannu £500 tuag at y peiriant newydd, ond yn hytrach, ynghyd a’r Grant gan Gyngor Sir Ddinbych, yn talu’n llawn am y netin newydd.

  1. ASEDAU C.C.H. GAN GYNNWYS MEINCIAU

Mae’r hysbysfwrdd newydd yn ei le, gyda diolch i Ian Carrie a Clwyd Spencer am eu cymorth

13.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU

Disgwylir ymweliad gan Swyddog Bicamrywiaeth Un Llais Cymru am gyngor am y dewis o blanhigion. Y gobaith ydi mai yn Ionawr fydd hyn.

14 GWEFAN Y CYNGOR A CHYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Mae pawb wedi derbyn copi o’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol i’w astudio. Fe’i rhoir yn Llyfrgell CCH y flwyddyn nesaf.

15.CYRSIAU HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU

Y cwbl wedi’i orffen

16.CYRSIAU COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH

Newidwyd y dyddiadau , ond nid oedd y ddolen yn gweithio.Rhoddwyd gwybod i’r trefnwyr.

17.CYLLID

26 Hydref 2025 Luxury Coatings Peintio rheiliau’r Gofeb Rhyfel £500.00
27 Hydref 2025 Core Highways Cau ffyrdd ar Sul y Cofio £180.00
130 Hydref 2025 Apel Pabi Coch Torch a rhodd £100.00
5 Tachwedd 2025 Neuadd Llogi ystafell cyfarfod Tachwedd £30.00
7 Tachwedd 2025 Y Gadlas Rhodd £250.00
6 Tachwedd 2025 Un Llais Cymru Hyfforddiant i’r Clerc £42.00
10 Tachwedd 2025 Un Llais Cymru Hyfforddiant i’r Clerc £42.00
12 Tachwedd 2025 Un Llais Cymru Hyfforddiant i’r Clerc £42.00

 

18.CEISIADAU CYNLLUNIO

Dim

19.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT

Ebost gan Amanda Lawson-Stoner . Gweler eitem 5 uchod

20.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Dim un Cynghorydd Sir yn bresennol

21.POLISI COD YMDDYGIAD

Mae’r ddogfen wedi’i chymeradwyo gan y Cynghorwyr

22.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Dim

23.MATERION BRYS DAN ADRAN 100 B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dim

 

Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 6ed Ionawr 2026 yn Neuadd yr Eglwys Henllan