1.PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Helen Clift, Clwyd Spencer, Cerian Jones, Cynghorydd Sir Ddinbych Delyth Jones a’r Clerc Stephanie Kelly

2.YMDDIHEURIADAU

Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Tom Marshall, Nathan Penfold, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd Williams

3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Nia Bellis – Cais Angeline Lawson am grant

4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD

Nid oedd datblygwr Cil-y-Coed yn bresennol – bydd yn dod i gyfarfod Mis Mawrth. Ymddiheuriadau I’r trigolion oedd yn disgwyl ei weld

5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Cadarnhawyd cofnodion 6ed Ionawr 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd

6.ARAFU CEIR YN HENLLAN

Dim newydd

7.COEDLAN HENLLAN

Yn nes I’r gwanwyn pan fydd y tywydd yn well bydd Helen Clift yn gwneud cais am offer gardd. Derbyniwyd e-bost i ddweud y bydd disgyblion blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Dinbych yn helpu i atgyweirio’r llwybrau ac i adeiladu “ gwesty pryfaid”. Mae Nia Bellis wedi gofyn a gaiff Cyngor Cymuned Henllan gyfrannu tuag at y cynllun. Trafodir hyn gydag Ian Carrie

8.Y PARC UCHAF

Mae mater trosglwyddo’r tir wedi ei drafod a thim cyfreithiol Cyngor Sir Ddinbych sy’n ceisio cyngor o’r tu allan. Bydd y Sir yn gyfrifol am y costau cyfreithiol a ninnau’n talu am yr hysbysiad.

9.PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF

Mae’r Clwb Peldroed wedi archebu peiriant newydd ond heb ei dderbyn hyd yma. Bydd angen i ni ystyried gwerthu’r hen beiriant. Penderfynwyd trwy bleidlais i’w werthu. Rhaid holi am ei werth.

10.UN LLAIS CYMRU – CYRSIAU HYFFORDDIANT

Mae Nia wedi trefnu cael lle ar ddau gwrs cyllid

11.CYLLID

Mae hi wedi bod yn amhosibl gwneud taliadau yn ystod absenoldeb Ian. Bydd y cwbl yn cael ei setlo pan ddaw Ian yn ol.

12.CEISIADAU CYNLLUNIO

Garn Henllan-Cais 28/2025/0584/LB – Adnewyddu ffenestri a drysau – Dim gwrthwynebiad

Plas Meifod – Cais 28/2PF025/0594/PF – Codi twr slyri- Dim gwrthwynebiad

13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU AM GRANT

Derbyniwyd cais gan Angeline Lawson ar ran Mynwent Eglwys Sant Sadwrn. Penderfynwyd eisioes talu £1000 tuag at gynnal y Fynwent.

14.MATERION STRYDWEDD ( FFYRDD)

Bydd Delyth Jones yn ymchwilio i fater cyffordd Stryd yr Eglwys i ddarganfod pam nad yw’r Cyngor yn fodlon rhoi arwydd neu linell” Stop”. Cadarhawyd bod y blychau graean wedi eu llenwi, ond heb eu trwsio.

Soniodd Clwyd fod y graeanu wedi gwella ers i Delyth gwyno.

15.BINIAU SBWRIEL

Mae Nia wedi holi am y posibilrwydd o gael arwyddion i roi ar y biniau cyhoeddus i ddweud nad ydynt i fod ar gyfer sbwriel o’r ty. Cadarnhaodd Delyth fod y Cyngor Sir yn ystyried sut i orfodi hyn.

16.MATERION CYNGOR SIR DINBYCH

Mae Helen White,y Prif Weithredwr newydd wedi dechrau ar ei gwaith.

Mae mater Parc Cenedlaethol arall wedi ei drafod gan y Cabinet ac mae Sir Ddinbych wedi ei wrthod oherwydd bod eu cwestiynau heb eu hateb, felly bydd rhagor o yngynghori.

Mae’r Gyllideb Gyfalaf wedi’i phasio, mae hyn ar gyfer cynnal ffyrdd ac adeiladau a chynlluniau mwy. Mae cartref i’w ddatblygu yng ngogledd y Sir af gyfer plant ifanc ag anghenion cyffredinol. Bydd hyn yn eu cadw o fewn y Sir.

Ysgol Pendref – cynllun busnes newydd ar gyfer datblygiad newydd a hefyd Ysgol Uwchradd Dinbych.

Trafodir y Gyllideb Dderbyniadau’r wythnos nesaf a dyna pryd y penderfynir ar Dreth y Cyngor

Mae noson I’r cyhoedd cyn bo hir yn Eirianfa ynglyn a datblygiad hen Ysbyty Gogledd Cymru. Bydd Delyth yn rhoi gwybod am y dyddiad.

Mae ailgylchu yn Sir Dinbych wedi cyrraedd 69% sydd yn agos iawn at nod Llywodraeth Cymru o 70%

17.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Dim

18.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cafwyd cwyn am olwg y dwr. Mae Delyth wedi bod yn holi Dwr Cymru  – cafwyd hyd i nam sydd bellach wedi ei atgyweirio

Cyfarfod nesaf y Cyngor  – Nos Fawrth 3ydd Mawrth 2026 am 7.00 yn Neuadd yr Eglwys Henllan