1.PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd )  Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Helen Clift, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Cerian Jones  a’r clerc Stephanie Kelly

2.YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Y Cynghorwyr Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Cynghorwyr Sir Pauline Edwards, Delyth Jones a Geraint Lloyd-Williams, Nathan Penfold

3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Dim

4.TRAFODAETH GYDAG AELODAU O’R CYHOEDD YN BRESENNOL

Dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol ond croesewir aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod nesaf ar 3ydd Chwefror am 7.00pm i drafod datblygiad Cil-y-Coed

5.CADARNHAU COFNODION CYFARFOD BLAENOROL Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 2AIL RHAGFYR 2025 I’W HARWYDDO GAN Y CADEIRYDD

Cadarnhaodd yr aelodau cofnodion 2ail o Ragfyr 2025 fel cofnod gwir ac fe’i harwyddwyd gan y Cadeirydd

6.MESURAU TAWELU TRAFNIDIAETH YN HENLLAN – ADRODDIAD DIWEDDARU

Dim diweddariad

7.COEDLAN HENLLAN

Bydd arwyddion y Goedlan yn cael eu gosod ym Mawrth 2026

  1. ADRODDIAD AR Y PARC UCHAF

Dim

  1. CAIS AM ARIANNU GAN SWM CYMUDO

Dim

10.PRYNIANT PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF

Yn disgwyl derbyn amcanbrisiau

11.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU

Mae hysbysfwrdd newydd wedi ei osod yn Maes Sadwrn

12.ADOLYGIAD O WEFAN Y CYNGOR A CHYFATHREBIADAU  ( CYFRYNGAU CYMDEITHASOL/FACEBOOK )

Cymeradwywyd y wefan gan y Cyngor Cymuned

13.CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU

Mae nifer o’r Cynghorwyr a’r Clerc, Stephanie wedi cwblhau hyfforddiant , ond mae rhai yn aros i’w cwblhau

14.CYRSIAU HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH

Cafodd y cwrs diweddaraf ei ganslo a bydd yn cael ei ail drefnu

15.CYLLID

 

 

Dyddiad Talwyd i Am £
17/11/2025 S Kelly Treuliau 11.25
18/11/2025 S Kelly Cyflog Preifat
24/11/2025 Un Llais Cymru Hyfforddiant T Marshall 42.00
5/12/2025 I  Carrie Costco Bagiau Bin, T Roll a Papur 24.27
17/12/2025 Angeline Lawson Coeden Nadolig 130.00
17/12/2025 Scottish Power Trydan i’r toiledau 100.66
17/12/2025 Neuadd yr Eglwys Henllan Llogi ystafell I Gyfarfod Rhagfyr 30.00
17/12/2025 Gareth O Evans Cyflog Hydref Tachwedd a Rhagfyr Preifat
18/12/2025 S Kelly Cyflog Preifat
18/12/2025 S Kelly Treuliau Preifat

 

 

16.CEISIADAU CYNLLUNIO

Dim

17.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT

Dim

18.MATERION FFYRDD YN HENLLAN

Nodwyd gan Clwyd Spencer nad oedd unrhyw gerbydau graeanu wedi bod ar y ffyrdd cyn 9am, ac ‘roedd ebost wedi ei anfon i Delyth Jones yn gofyn am fanylion y polisi graeanu. Mae dau flwch graean angen eu hail lenwi a dau sydd angen caeadau newydd.

Nodwyd hefyd fod angen llinnell I ddynodi’r gyffordd yn Stryd yr Eglwys, gan ei fod yn gallu bod yn beryglus.

19.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Dim cynghorwyr Sir Ddinbych yn bresennol yn y cyfarfod

20.POLISI COD YMDDYGIAD

Roedd copi o’r ddogfen yn cynnwys y polisi  cod ymddygiad wedi ei anfon i bob cynghorydd, ac fe gymeradwywyd y ddogfen gan y cynghorwyr.

21.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Gofynnodd Clwyd Spencer i ddau lofnod  fod yn angenrheidiol i daliadau cyflog staff y cyngor

Nododd Helen Clift fod biniau sbwriel y pentref yn llawn o sbwriel cartref.

Roedd ebost wedi ei dderbyn gan Craig Williams ynglyn a phrosiect a gynhelir gyda phlant ysgol uwchradd yn yr Ardd Wenyn. Dywedodd Helen ei bod yn mynd i ofyn ar Facebook am offer garddio, a gofynnwyd i’r mater gael ei roi ar agenda y cyfarfod nesaf

22.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dim

 

Cyfarfod nesaf y Cyngor – Mawrth 3ydd Chwefror 2026 yn Neuadd yr Eglwys Henllan am 7.00pm gan y bydd trafodaeth flaenorol ynglyn a datblygiad Cil-y-Coed