1.PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Nathan Penfold, Cynghorydd Sir Ddinbych Delyth Jones a’r Clerc Stephane Kelly

2.YMDDIHEURIADAU

Tom Marshall, Helen Clift, Cerian Jones a chynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd Williams

3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Ian Carrie, Merfyn Roberts, Gwyn Roberts- rhodd ar gyfer yr henoed a’r anabl.

Clwyd Spencer – rhodd ar gyfer sefydliad DPJ

4.TRAFODAETHAU AG AELODAU’R CYHOEDD

Neb yn bresennol

5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Cadarnhawyd cofnodion 23ain Chwefor 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd

  1. ARAFU CEIR YN HENLLAN

Dim  newydd

7.COEDLAN HENLLAN A GARDD WENYN  NEUADD YR EGLWYS

Bydd Ian Carrie yn apelio ar dudalennau Facebook Henllan am offer garddio ar gyfer yr ardd wenyn. Bydd Ian yn ateb ebost yr Heddwas Craig Williams a gofyn am i’r grant gael ei dalu i Neuadd yr Eglwys  yn hytrach nag i gyfrif y .Cyngor Cymuned.

8.Y PARC UCHAF

Anfonwyd cais ebost am y Portacabin ar y cae chwarae. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn caniatau’r dwr yfed a phibell ddwr gwastraff i’w cysylltu a’r toiledau os bydd Cyngor Henllan yn rhoi caniatad. Pleidleiswyd o blaid hyn ar y ddealltwriaeth y byddai’r cyfleusterau ar gael i eraill  e.e. “ Guides” yn gwersylla ar y cae. Disgwylir derbyn amcan-bris oddi wrth Chris Brown am ffens a netin newydd gan gwmni yng Nghorwen.

9.PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF

Mae peiriant newydd y Clwb Peldroed wedi cyrraedd ac wedi ei storio yn y Parc. Bydd Clwyd yn gofalu am beiriant Cyngor Cymuned Henllan nes iddo gael ei werthu.

 

10.CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU

Anfonwyd y manylion at y Cynghorwyr.

11.CYLLID

09:02:2026 Neuadd yr Eglwys Cyfarfod Ionawr £30.00
09:02:2026 Neuadd yr Eglwys Cyfarfod Chwefror £30.00
10:02:2026 Stephanie Kelly Arnold Baker Local

Council admin

£180.00
17:02:2026 Stephanie Kelly Cyflog Preifat
20:02:2026 Stephanie Kelly Costau Preifat
       

 

 

12.CEISIADAU CYNLLUNIO

Garn, Henllan – Cais 29/2026/0618/LBC – ~Gwaith mewnol ar yr ystafell fwyta-Dim gwrthwynebiad

13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT

Cais gan Angeline Lawson ar ran Eglwys Sant Sadwrn ar gyfer cynnal a chadw’r Fynwent. Penderfynwyd talu £1000 ar ol dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.

Cais gan Alice Lovegrove Jones ar ran Henllan Brownies and Guides. Penderfynwyd talu £500

Cais gan Dewi Jones ar ran y Clwb peldroed merched dan 11. Penderfynwyd talu £500

Cais gan Henoed ac Anabl Dinbych ar gyfer trip i bobl Henllan. Penderfynwyd talu £200

Cais gan DPJ sy’n cynnal iechyd meddwl amaethwyr. Penderfynwyd talu £250

14.STRYDOEDD – MATERION FFYRDD

Dywedodd Delyth Jones nad oedd Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i ailosod y llinell Stop na’r arwydd.

Cadarnhawyd  bod y blychau graean wedi’u  llenwi ond heb eu trwsio.Bydd Cyngor Henllan yn cael golwg arnynt. Cafwyd cwynion am faw cwn yng Nghodre’r Garn. Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn yr ardal.

Bydd gwaith ail-wynebu Ffordd Meifod yn y flwyddyn ariannol newydd. Bydd y Cynghorydd Delyth Jones yn holi faint o waith a wneir.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud gwaith trwsio dros dro I’r hen arhosfan bysiau  ar Stryd Dinbych Henllan.Bydd Ian Carrie am holi pa waith arall a wneir.

Cynhaliwyd cyfarfod ar ddyd Iau 19 Chwefror wrth ddatblygiad newydd Cil-y-Coed. Yn bresennol roedd y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Tom Marshall, Clwyd Spencer a Gwyn Roberts gyda dau o’r trigolion pryderus, Peter ( Glyn) Jones a Jonathan Parry Jones.

Bu cyfarfod gyda’r datblygwr Lee Webster a cytunwyd wedi gweld y terfyn wedi’i nodi’n glir ar gynlluniau ‘r Gofrestrfa Tir, pam fod y gwrych a’r coed wedi eu symund i ddangos yn gywir y ffin rhwng cefn Glasfryn a datblygiad newydd Cil-y-Coed. Cytunodd pawb ar y safle fod angen ychydig o waith ar y terfyn y tu ol i rif 11 Glasfryn, codi’r ffens newydd rhwng Glasfryn a Cil-y-Coed a phlannu gwrych llawryf cyn gynted ag y bo modd ar ochr y stad newydd i’r ffens newydd. Bellach cafwyd cadarnhad ysgirfennedig gan y contractwyr.

15.BINiAU SBWRIEL

Mae Nia Bellis wedi siarad a rhywun am gael arwydd “ Dim Sbwriel Domestig “ ar gyfer y biniau cyhoeddus. Cadarnhaodd Delyth Jones fod Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried hyn. Mae’r Sir yn pwysleisio mai ar gyfer sbwriel  a baw cwn yn unig mae’r biniau cyhoeddus.

16.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Mae treth y Cyngor wedi’i osod bellach. Sir Ddinbych yw un o’r rhai isaf yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwahodd Cynghorwyr i ymweld a’r safle ar Stryd Henllan ar 23ain Mawrth . Cafwyd cadarnhad y bydd fflatiau un lloft ar gael.

Mae arian ychwanegol wedi dod gan y Llywodraeth ar gyfer Gorfodi a hefyd i gefnogi pobl ifanc mewn gofal. Gall cartrefu person ifanc fod yn ddrud iawn, yn enwedig y tu allan i’r Sir,  Mae Sir Ddinbych yn datblygu eu pecyn eu hunain  i gefnogi Gofalwyr Maeth , gan gynnwys rhyddhad o Dreth y Cyngor. Mae Cynlluniau Pendref a’r Ysgol Uwchradd  yn mynd yn eu blaen ac wedi’u cyhoeddi ar gyfer tendro.Disgwylir penderfyniad ar Pendref erbyn diwedd y mis.

Cadarnhaodd Sir Ddinbych mai “ Arena Mike Peters” fydd enw’r ystafell ymgynnull ym Marchnad y Frenhines.

Cam nesaf Pwll y Grawys fydd y cynllun terfynol gan anelu at Hydref 26/Gwanwyn 27. Bydd peth anrhefn .ond daw gwelliant

17.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Dim

18.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dim

CYFARFOD NESAF Y CYNGOR – NOS FAWRTH 7ED EBRILL 2026 AM 7.30 YN NEUADD YR EGLWYS HENLLAN