COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED HENLLAN NOS FAWRTH 5ED IONAWR 2021 AM 7.30 TRWY GYFRWNG ZOOM.
1: PRESENNOL: Y Cynghorwyr Nicky Bassett-Powell (Cadeirydd), Amanda Lawson, Jackie Jones, Clwyd Spencer, Geraint Williams, Gwyn Roberts, Martin Pritchard, John Bellis, Dewi Jones, Merfyn Roberts, Cynghorydd Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams a’r Clerc.
2. CROESO I AELOD NEWYDD Y CYNGOR.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Jackie Jones i’w chyfarfod cyntaf fel aelod o’r Cyngor.
3. YMDDIHEURIADAU.
Dim.
4. DATGANIADAU DIDDORDEB.
Y Cynghorydd Gwyn Roberts are item 10 isod (Diddordeb personol).
5. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF.
Cadarnhawyd cofnodion 1af Rhagfyr 2020.
6. MATERION YN CODI O’R COFNODION.
A. Roedd y Cynghorydd Martin Pritchard wedi cysylltu ag Artisan Memorials gan roi’r wybodaeth ar gyfer cofeb i’r ddiweddar Edith Adey Jones.
B. Nid oedd Pwyllgor “Hen Domen Sbwriel Henllan” wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Mae’r pecyn gwybodaeth i’w astudio bellach gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.
C. Dywedodd y Cynghorydd Amanda Lawson bod angen goleuadau newydd ar gyfer y Goeden Nadolig Cymunedol. Penderfynwyd cael rhai newydd.
D. Diolchodd y Cynghorydd Geraint Williams i’r Clerc am ddosbarthu cofnodion Cymraeg cyfarfod ddiwethaf y Cyngor.
7. CYFYNGIADAU COVID-19.
Penderfynwyd y byddai toiledau Cyhoeddus Henllan yn aros ar gau ar hyn o bryd.
8. CYLLID.
A. Arian yn y banc: £26,444.04.
B. Precept 2020-21: Derbyniwyd £5,404.00.
C. Taliadau a awdurdodwyd:-
1. Scottish Power – Trydan i’r Toiledau Cyhoeddus am y tri mis yn gorffen 30ain Tachwedd 2020 – £34.61.
2. Dwr Cymru – Trethi Dwr y Toiledau Cyhoeddus am y chwe mis yn gorffen 31ain Rhagfyr 2020 – £51.05.
3. SLCC – Tanysgrifiad y Clerc am y flwyddyn 2021 – £166.00.
4. Gareth O. Evans – Cyflog y gofalwr am y tri mis yn gorffen 31ain Rhagfyr 2020 – £81.00.
5. Gwyn Davies – Cyflog y Clerc am y tri mis yn gorffen 31ain Rhagfyr 2020 – £420.00.
6. Cyllid y Wlad – Treth am y tri mis yn gorffen 31ain Rhagfyr 2020 – £105.00.
9. PRECEPT Y CYNGOR AR GYFER 2021-22.
A. Rhoddodd y Clerc fanylion am dderbyniadau a thaliadau’r Cyngor yn ystod 2019/2020 a 2020/2021.
B. Wedi ystyried y ffigyrau penderfynwyd gofyn am £16,044 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/2022.
10. CAIS CYNLLUNIO.
Cais 28/2020/1024 – Dymchwel y tŷ presennol a chodi un newydd gyda modurdy ar wahân, newidiadau i’r fynedfa bresennol, tirlunio a gwaith perthnasol – Mount View, Ffordd Bryn-y-Garn, Henllan. Penderfynwyd tynnu sylw at dri mater:-
A: Ffenestri’r ail lawr yn edrych dros eiddo agos.
B. Dim manylion pendant am uchder ychwanegol y tŷ newydd.
C. Cymdogion eisoes wedi tynnu sylw at broblemau draenio.
11. GOHEBIAETH.
Wedi ei thrafod eisoes.
12. MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH.
Soniodd y Cynghorydd Sir Geraint Lloyd-Williams am ddau fater:-
A: Mae Canolfan Symudol Sir Ddinbych ar gyfer profion Covid-19 ar hyn o bryd ym maes parcio swyddfeydd Caledfryn.
B. Y gwasanaeth bws Fflecsi rhif 66 yn gwasanaethu Henllan a Dinbych.
13. MATERION BRYS DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
A. Dywedodd y Cynghorydd Nicky Bassett-Powell bod angen trwsio’r Peiriant Torri Gwair Cymunedol. Penderfynwyd y dylai Chris Brown drefnu i’r Peiriant cael sylw.
B. Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones fod Gerwyn Jones, Rheolwr Clwb Pêl-droed Henllan wedi cael cynnig llwyth o rwbel ar gyfer maes parcio’r Parc Uchaf. Penderfynwyd gofyn i Gerwyn Jones gysylltu â’r Clerc er mwyn iddo sicrhau’r caniatâd priodol.
14. CYFARFOD NESAF Y CYNGOR – Nos Fawrth 2il Chwefror 2021 am 7.30 trwy gyfrwng Zoom.
15. CAEODD Y CADEIRYDD Y CYFARFOD AM 9.15 P.M.

