1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Nia Bellis, Gwyn Roberts. Merfyn Roberts, Cerian Jones, Helen Clift, Clwyd Spencer, Ian Carrie, Nathan Penfold, Cynghorwyr Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams a Delyth Jones.
2.YMDDIHEURIADAU
Cynghorydd Sir Ddinbych, Pauline Edwards
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Dywedodd y Cynghorydd Ian Carrie ei fod yn adnabod y sawl a ystyrir i lenwi sedd wag y Cyngor.
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD
Neb yn bresennol
5.CADARNHAU COFNODION CYFARFOD DIWETHAF Y CYNGOR
Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod 3ydd Mehefin 2025 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
6.MATERION YN CODI O’R COFNODION
Cyfethol aelod newydd i Gyngor Cymuned Henllan ( gweler eitem 21)
Penodi Clerc newydd
7.ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN
Diweddarodd y Cynghorydd Ian Carrie y Cyngor ynglyn a’r diwrnod gwylio cyflymder a gynhaliwyd yn Henllan, ac mae manylion y cerbydau a oedd yn gor-yrru wedi eu hafnon at Heddlu Gogledd Cymru.
8.COEDLAN HENLLAN
Yr arwydd byth wedi cyrraedd oddi wrth Gyngor Sir Ddinbych
9.Y PARC UCHAF
Cafwyd diweddariad gan y Cyngorydd Bellis am y cais i gael trosglwyddo perchnogaeth y Parc i Gyngor Cymuned Henllan
10.CAIS AM SYMIAU O ARIAN GOHIRIEDIG
Hysbysodd y Cynghorydd Carrie fod y Cyngor Cymuned wedi llwyddo i gael grant ar gyfer ffensio’r Parc Uchaf. Mae’r Cynghorydd Sir Delyth Jones yn helpu i gael amcanbrisiau I’r gwaith. Deellir bod gwrych i’w blannu hefyd er mwyn diogelu’r wal gerrig
11.RHESTR ASEDAU CYNGOR CYMUNED HENLLAN GAN GYNNWYS MEINCIAU
Mae’r rhestr gyfoes sy’n cynnwys Mainc Olive wrth y Siop gan Ian. Mae’r fainc wedi cael ei harchebu. Mae hysbysfwrdd newydd Maes Sadwrn yn barod i’w gasglu – mae angen trefnu hyn.
12.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU
Mae’r Cynghorydd Jackie Jones wedi darparu planhigion I Ysgol Gymraeg Henllan ac mae’r disgyblion wedi bod yn eu plannu. Mae Cyngor Cymuned Henllan yn dymuno diolch i bawb sy’n byw yn yr ardal, yn oedolion ac yn blant, am eu gwaith yn gofalu am y gwelyau blodau.
13.GWEFAN A CHYSYLLTIADAU’R CYNGOR
Erbyn hyn, mae’r Cynghorydd Carrie wedi cael mynediad at wefan ac e-gyfeiriad y Cyngor.Mae’r ddau yn cael ei diweddaru.
14.CYRSIAU HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU
Mae’r Cynghorydd Bellis yn dymuno archebu lle ar ddau gwrs, sef Modiwl 4 “ Deall y Gyfraith” a Modiwl 5 “ Cyfarfodydd y Cyngor”
15 CYRSIAU COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH
Roedd y Cynghorydd Jackie Jones a’r Cynghorydd Gwyn Roberts am archebu lle ar un o’r cyrsiau
16.CYLLID AC ARCHWILIO CYFRIFON CYNGOR CYMUNED HENLLAN EBRILL 2025
Mae’r Cynghorydd Jackie Jones, y Cadeirydd wedi arwyddo’r papurau Archwiliad. Anfonwyd un copi i “ Archwilio Cymru” a chopi arall i’w weld ar yr hysbysfwrdd ac ar y wefan. Awdurdodwyd y taliadau canlynol rhwng 17eg Ebrill a’r 30ain Mehefin
17eg Ebrill – Cyllid y Wlad – taliadau staff £191.40
13eg Ebrill – Eglwys Henllan Grant £1000.00
13eg Ebrill- Capel Henllan Grant £1000.00
14eg Ebrill-Mrs Eryl Davies Blodau i’w plannu £49.00
14eg Ebrill – Clear Connects Yswiriant y Cyngor £661.06
14eg Ebrill- Un Llais Cymru Aelodaeth £175.00
14eg Ebril- Neuadd yr Eglwys Henllan Llogi 3 mis £90.00
14eg Ebrill-Ian Carrie – Papur Toiled, goriadau etc £53.96
14eg Ebrill- Cynhyrchion Pren Meifod -Hysbysfwrdd £568.00
14eg Ebrill- Cynhyrchion Pren Meifod – Mainc Newydd £154.00
27ain Ebrill-HSBC – costau £5.00
27ain Mai- HSBC – costau £5.00
11eg Mehfin- Manweb- trydan i’r toiledau £96.56
13eg Mehefin- Swyddfa’r ComisiynyddGwybodaeth
Diogelu Data £40.00
15eg Mehefin -Neuadd yr Eglwys Henllan-Llogi 2 fis £60.00

17.CEISIADAU CYNLLUNIO
Dim
18.GOHEBIAETH
Dim
19.MATERION FFYRDD
Mae’r Cynghorydd Carrie wedi hysbysu Cyngor Sir Ddinbych fod angen sylw ar y canllaw o Hen Lon i Stryd y Llindir
20.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Trafodwyd y penderfyniad I beidio ail-godi Pont Llannerch
21.CYFETHOL CYNGHORYDD
Roedd Thomas Marshall 16 Glasfryn wedi dangos diddordeb yn y sedd wag. Cynhaliwyd pleidlais a derbyniwyd Mr Marshall yn gynghorydd
22.SWYDD WAG Y CLERC
Hysbysebwyd y swydd a’r dyddiad cau yn gynnar ym mis Gorffennaf. Mae eisioes un ymgeisydd posibl. Ffurfiwyd is-bwyllgor o bedwar cynghorydd i gyfweld a’r ymgeiswyr
23.MATERION BRYS O DAN ADRAN 100 (B) O DDEDDF LLYWODRAETH LLEOL 1972
Dim

Cyfarfod nesaf y Cyngor Nos Fawrth 2ail Medi 2025 am 7.30pm yn Neuadd yr Eglwys Henllan