Amcan Y Mudiad
I hybu unrhyw achos er budd Merched yng Nghymru a ystyrir trwy gyfraith yn elusennol ar hyn o bryd neu ar unrhyw adeg yn y dyfodol, ac yn arbennig i rymuso addysg gyhoeddus ac i hyrwyddo diwylliant Cymraeg, addysg a’r celfyddydau yng Nghymru trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Bydd y Mudiad yn amhleidiol yn boliticaidd ac yn anenwadol yn grefyddol.
Cynhelir y cyfarfodydd am 7.30yh ar y 4ydd nos Lun o’r mis yn Festri’r Capel oni nodir yn wahanol.
Cynhelir cyfarfodydd /gweithgareddau ychwanegol efo canghenau’r rhanbarth / cenedlaethol e.e. penwythnos preswyl, cwis, bowlio deg, nosweithiau chwaraeon /gemau, cyrsiau crefft ….