Henllan, Sir Ddinbych

Pentref bychan hanesyddol a chymuned yng ngorllewin Sir Ddinbych yw Henllan(“Cymorth – Sain” ynganiad ) (cyfeiriad grid SJ023681). Saif ar groesffordd wledig tua 3 milltir i’r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ar yr hen lôn o’r dref honno i Lansannan. Mae Eglwys Sant Sadwrn a’i glochdy canoloesol hynod yn edrych i lawr ar y pentref.

Henllan o Gae Llindir; c. 1885.

Hanes a hynafiaethau

Ceir nifer o hen dai yn y pentref. Mae’r eglwys yn hynod am fod ei chlochdy yn sefyll ar wahân ar fryncyn calchfaen isel.

Mae cerdd gan Guto’r Glyn yn y 15g yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan i’w rhoi ar dô tŷ Syr Gruffudd ab Einion ap Tudur ap Heilyn Goch yn Henllan.[1]

Claddwyd yr emynydd Hugh Jones o Faesglasau (1749-1825) ym mynwent eglwys y plwyf yn Ebrill 1825, ar ôl iddo farw yn Ninbych yn 75 oed.

Saif Foxhall, cartref teulu Humphrey Lhoyd, o fewn y gymuned. Heb fod yn nepell ceir plasdy Foxhall Newydd, sy’n adeilad rhestredig Graddfa I.

Tîm pêl-droed y pentref

Mae CPD Henllan yn cystadlu yng Nghyngrair Pêl Droed Haf Llandyrnog a’r Cylch. Derbyniwyd i’r gynghrair yn 1932. Ers hyn maent wedi ennill y gynghrair 7 gwaith a’r darian 4 gwaith. Cafwyd eu llwyddiant diwethaf yn 2012 wrth guro Clawddnewydd yn rownd derfynol y darian, ac yn y broses yn cipio’u tlws cyntaf ers 38 mlynedd.

Eglwys St Sadwrn

Eglwys o’r 11g a ailadeiladwyd yn sylweddol rhwng 1807 a 1809 yw Eglwys Sant Sadwrn, Henllan a saif ym mhen ucha’r pentre bychan hwn. Cofrestrwyd yr eglwys a’r clochdy cyfagos yn Hydref 1950, Gradd II*. Lleolir Henllan yng ngorllewin Sir Ddinbych (cyfeiriad grid SJ023681) – ar groesffordd wledig tua 3 milltir i’r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ar yr hen lôn o’r dref honno i Lansannan. Fel y dywedodd Thomas Pennant yn 1879, nodwedd amlycaf yr eglwys ydy’r bwlch enfawr sydd rhyngddi a thŵr enfawr y clochdy. Ymgorfforwyd ynddi nifer o srwythurau’r hen eglwys, gyda rhai’n dyddio i’r 11g.

Yn y fynwent ceir bedd yr emynydd Hugh Jones, Maesglasau ac a gofir yn bennaf am ei emyn ‘O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn’, a ddisgrifwyd gan O. M. Edwards fel “yr emyn gorau yn yr iaith Gymraeg.” Cyhoeddodd yn ogystal ddwy gyfrol o gerddi ac emynau, Gardd y Caniadau (1776) a Hymnau Newyddion (1797).

Y dyddiau cynnar

Un cyfeiriad yn unig sydd am y sant o’r 7g a roddodd ei enw i’r eglwys hon: Sant Sadwrn, a hynny mewn dogfen a elwir bellach yn ‘Chwedl Gwenffrewi’ gan ‘Robat’ o’r Amwythig. Ynddi cyfeiria at Sadwrn a’i fod wedi tywys Gwenffrewi ar ei thaith o Dreffynnon i Wytherin. Mae hyn yn digwydd wedi iddi gael ei merthyru. Mae enw’r pentref ei hun yn cynnwys cyfeiriad at ffurf caeedig (‘Llan’) ‘hynafol, ac mae’n ddigon posib fod adeilad crefyddol wedi bod yma ers dyddiau cynnar Sant Sadwrn. Ceir Llansadwrn ar Ynys Mon a chredir mai yno mae gweddillion y sant.

Ar ddogfen, cofnodir enw’r eglwys hon yn gyntaf yn 1201 ac yna yn 1533, tra’n nodi manylion am dreth. Yn 1201 fe’i disgrifir hefyd fel ‘un o gapeli Eglwys Gadeiriol Llanelwy’. Roedd o leiaf dau gapel arall: Tywysog, Sir Ddinbych a Lleweni  (‘Y Grîn, Dinbych’, bellach). Cofrestrwyd yr eglwys yn gyntaf yn 1291.

Hanes

Rhannau o’r eglwys gwreiddiol

Yn y festri mae’r rhan fwyaf o’r olion sydd wedi bod yma ers yr Oesoedd Cannol: mae drws y festri, gyda’i fwa nodedig, yn perthyn i’r 14fed ganrif, a oedd yn brif fynedfa i’r eglwys ar un cyfnod; Mae ffenest y festri hefyd yn perthyn i’r un cyfnod, gyda’i dwy chwarel hynafol – a ffenest ochr ddwyreiniol yr eglwys er ei bod wedi’i lleihau cryn dipyn. Yma hefyd ceir piscina ble mae’r offeiriad yn golchi ei ddwylo mewn modd seremoniol – mae’r basin hwn yn mynd yn ôl i tua 1,100, a’r fedyddfaen hitha a’r golofn wyth-ochrog hefyd.

Ailwampiad 1807-1809

Cyn dechrau atgyweirio’r eglwys yn 1807, to ‘shingles’ oedd yma, a tho gwellt cyn hynny. Codwyd y to gryn dipyn yn uwch a diflannodd y ffenestri to (dormer) yn llwyr; ceir llun hynod o’r hen eglwys gan Moses Griffith a beintiodd yn 1777. Dymchwelwyd hefyd galeri’r eglwys yn y rhan ddeheuol. Codwyd galeri newydd yn erbyn y fagwyr orllewinol a chostiodd hyn oll £964.

Atgyweirio 1878 – 1879

Costiodd y gwaith o ailwampio’r eglwys £1,900: codwyd porth y tu allan i brif fynedfa’r ochr deheuol a chaewyd y fynedfa orllewinol ac ychwanegwyd dwy ffenestr newydd a phulpud newydd mewn carreg Stanton – anrheg gan y teulu Heaton. Codwyd y llawr chwe modfedd er mwyn gosod system gynhesu. Mae’n bosib mai o’r cyfnod yma y daw’r to bwaog hefyd. Tynnwyd y plastr oddi ar y wal mewnol a gwelwyd y cerrig am y tro cyntaf; llenwyd y bylchau rhyngddynt.

Y clochdy

14g. Saif ar ran ucha’r graig, yn uwch na’r eglwys. Mae ei gorneli’n cyfeirio’n union at bedwar pwynt y cwmpawd. Mae’r drws derw’n wreiddiol. Dim ond y to sydd wedi newid ers yr Oesoedd Canol; ail-dowyd y clochdy yn 1844 ac eto yn 1986.

 

Lluniau

Llun gan John Thomas, c. 1885

Llun gan John Thomas, c. 1885

 

Un o'r cofebau teuluol; mae hon yn nodi teulu Salusbury

Un o’r cofebau teuluol; mae hon yn nodi teulu Salusbury