PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer,Nick Marriott, Aled Ellis
1.CROESO
2.YMDDIHEURIADAU
Ian Carrie ( Is-Gadeirydd) Cerian Jones, Nia Bellis,Tom Marshall, Cynghorwyr Sir Delyth Jones, Pauline Edwards, Geraint Lloyd-Williams
3.DATGANIADAU DIDDORDEB –Dim
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD – Dim
5.CADARNHAU COFNODION CYFARFOD DIWETHAF Y CYNGOR NOS FAWRTH 1AF MEDI
Cadarnhawyd gan Merfyn Roberts a’u heilio gan Clwyd Spencer er mwyn i’r Cadeirydd eu harwyddo
6.ARAFU TRAFNIDIAETH YN HENLLAN –Dim byd
7.COEDLAN HENLLAN A GWELYAU BLODAU
Mae Ysgol Gymraeg Henllan wedi ail blannu rhai Ffordd Meifod. Diolch iddynt.
Arwyddion i’r Goedlan byth wedi cyrraedd
8.Y PARC UCHAF
Bydd Chris yn archebu’r netin pan fydd y pyst yn eu lle
9.UN LLAIS CYMRU
Os oes cyrisau sydd o ddiordeb i’r Cynghorwyr, dylent roi gwybod i Stpehanie neu Ian
10.CYLLID
Taliadau o gyfrif trafod Cyngor Cymuned Henllan 11 Awst 26-18 Medi 26
| 13 Awst 26 | Un Llais Cymru | Ian Modiwl 30 Rhif 10117 | 44.00 |
| 29 Awst 26 | Harold Smith | Ail -gofrestru | 36.00 |
| 29 Awst 26 | Ian Carrie | Amazon-Adnewyddu Microsoft Office | 87.49 |
| 11 Medi 26 | Scottish Power | Trydan i’r toiledau | 96.89 |
| 11 Medi 26 | Winserve | Tal am hen wefan | 142.03 |
| 11 Medi 26 | Stephanie Kelly | Cyflog Awst | Preifat |
| 11 Medi 26 | Stephanie Kelly | Costau | Preifat |
| 14 Medi 26 | Neuadd yr Eglwys | Llogi – Medi | 35.00 |
11.CEISIADAU CYNLLUNIO
Dim hyd at 18ed Medi 26
12.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Cais gan Ysgol Gymraeg Henllan- Trafodwyd a phasiwyd gan y Cyngor
Cais gan Neuadd yr Eglwys Henllan am £1000 i gefnogi Sioe Flodau Henllan – Trafodwyd a phasiwyd gan y Cyngor
- MATERION STRYDWEDD ( FFYRDD ) A CHWYNION
Cwyn i’r Cyngor Sir am atgyweirio hen arhosfan bysiau , Stryd Dinbych – disgwyl ateb gan Gyngor Sir Ddinbych
Arwydd i Goedlan Henllan- Dal i aros
Cwyn am Air BnB Tentoeleven Stryd yr Eglwys – y Cynghorydd Delyth Jones yn delio a’r mater
Cais i Adran Ffyrdd Cyngor Sir Ddinbych am ganiatad i osod arwyddion – dal i aros
Dywedodd Delyth y byddai wyneb newydd yn cael ei roi ar ffyrdd Meifod a Bryn y Garn yn ystod hanner tymor Chwefror 2027
14.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Mae cynlluniau Pwll y Grawys wedi eu cwblhau a’r Gwaith i fod i ddechrau yn Ionawr. Bydd dau drogylch efo mannau i gerddwyr groesi a dau le i fysiau stopio.
15.MATERION ERAILL YN DEILLIO O’R COFNODION
Mae Charlotte Jones yn dangos y ffilm “ National Emergency Briefing” yn Neuadd yr Eglwys nos Wener 16eg Hydref rhwng 7 a 9. Mae gwahoddiad i aelodau’r Cyngor a chais iddynt helpu ar y noson.Manylion pellach gan Charlotte -ebost charlotte.jones@btinternet.com
16.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth, 3ydd Tachwedd 26 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan

