1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones( Cadeirydd) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Nia Bellis Gwyn Roberts Merfyn Roberts Clwyd Spencer a’r Clerc Stephanie Kelly
2.YMDDIHEURIADAU
Y Cynghorwyr Nathan Penfold Helen Clift Tom Marshall a Cerian Jones a Chynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards Delyth Jones a Geraint Lloyd-Williams
3.DATGANIADAU DIDDORDEB
Dim
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYNGOR
Hoffai Mr Glyn Jones ar ran preswylwyr Glasfryn a Maes Sadwrn drafod datblygiad Cil y Coed sydd wedi golygu iddynt golli preifatrwydd a diogelwch. Hoffent wybod beth sydd i gymryd eu lle , boed yn ffens neu goed
5.ADOLYGU COFNODION DRAFFT CYN IDDYNT GAEL EU HARWYDDO
Cadarnhawyd y dylid newid y cyfeiriad at “ Cae Peldroed” i “ Maes Chwarae”
6.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cadarnhawyd Cofnodion 4ydd Tachwedd 2025 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
7.MESURAU TAWELU TRAFFIG YN HENLLAN
Mae Alan Roberts bellach wedi cwblhau’r hyfforddiant
8.COEDLAN HENLLAN
Gosodir yr arwyddion ym mis Mawrth 2026
9.Y PARC UCHAF
Dim newydd gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae Nia Bellis wedi anfon ebost ond heb dderbyn ateb. Bydd yn anfon eto gyda chopi i aelodau Cyngor Sir Ddinbych.
- CYLLID GOHIRIEDIG
Mae Ian wedi derbyn ebost gan Chris. Penderfynwyd heno mai ni fydd yn talu am y netin ar gyfer y maes chwarae
11.PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF
Wedi trafod hefo’r Clwb Peldroed, penderfynwyd bod Cyngor Cymuned Henllan yn peidio cyfrannu £500 tuag at y peiriant newydd, ond yn hytrach, ynghyd a’r Grant gan Gyngor Sir Ddinbych, yn talu’n llawn am y netin newydd.
- ASEDAU C.C.H. GAN GYNNWYS MEINCIAU
Mae’r hysbysfwrdd newydd yn ei le, gyda diolch i Ian Carrie a Clwyd Spencer am eu cymorth
13.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU
Disgwylir ymweliad gan Swyddog Bicamrywiaeth Un Llais Cymru am gyngor am y dewis o blanhigion. Y gobaith ydi mai yn Ionawr fydd hyn.
14 GWEFAN Y CYNGOR A CHYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Mae pawb wedi derbyn copi o’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol i’w astudio. Fe’i rhoir yn Llyfrgell CCH y flwyddyn nesaf.
15.CYRSIAU HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU
Y cwbl wedi’i orffen
16.CYRSIAU COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH
Newidwyd y dyddiadau , ond nid oedd y ddolen yn gweithio.Rhoddwyd gwybod i’r trefnwyr.
17.CYLLID
| 26 Hydref 2025 | Luxury Coatings | Peintio rheiliau’r Gofeb Rhyfel | £500.00 |
| 27 Hydref 2025 | Core Highways | Cau ffyrdd ar Sul y Cofio | £180.00 |
| 130 Hydref 2025 | Apel Pabi Coch | Torch a rhodd | £100.00 |
| 5 Tachwedd 2025 | Neuadd | Llogi ystafell cyfarfod Tachwedd | £30.00 |
| 7 Tachwedd 2025 | Y Gadlas | Rhodd | £250.00 |
| 6 Tachwedd 2025 | Un Llais Cymru | Hyfforddiant i’r Clerc | £42.00 |
| 10 Tachwedd 2025 | Un Llais Cymru | Hyfforddiant i’r Clerc | £42.00 |
| 12 Tachwedd 2025 | Un Llais Cymru | Hyfforddiant i’r Clerc | £42.00 |
18.CEISIADAU CYNLLUNIO
Dim
19.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Ebost gan Amanda Lawson-Stoner . Gweler eitem 5 uchod
20.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Dim un Cynghorydd Sir yn bresennol
21.POLISI COD YMDDYGIAD
Mae’r ddogfen wedi’i chymeradwyo gan y Cynghorwyr
22.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION
Dim
23.MATERION BRYS DAN ADRAN 100 B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 6ed Ionawr 2026 yn Neuadd yr Eglwys Henllan

