1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Helen Clift, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Cerian Jones a’r clerc Stephanie Kelly
2.YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Y Cynghorwyr Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Cynghorwyr Sir Pauline Edwards, Delyth Jones a Geraint Lloyd-Williams, Nathan Penfold
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Dim
4.TRAFODAETH GYDAG AELODAU O’R CYHOEDD YN BRESENNOL
Dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol ond croesewir aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod nesaf ar 3ydd Chwefror am 7.00pm i drafod datblygiad Cil-y-Coed
5.CADARNHAU COFNODION CYFARFOD BLAENOROL Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 2AIL RHAGFYR 2025 I’W HARWYDDO GAN Y CADEIRYDD
Cadarnhaodd yr aelodau cofnodion 2ail o Ragfyr 2025 fel cofnod gwir ac fe’i harwyddwyd gan y Cadeirydd
6.MESURAU TAWELU TRAFNIDIAETH YN HENLLAN – ADRODDIAD DIWEDDARU
Dim diweddariad
7.COEDLAN HENLLAN
Bydd arwyddion y Goedlan yn cael eu gosod ym Mawrth 2026
- ADRODDIAD AR Y PARC UCHAF
Dim
- CAIS AM ARIANNU GAN SWM CYMUDO
Dim
10.PRYNIANT PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF
Yn disgwyl derbyn amcanbrisiau
11.GWELYAU BLODAU A HYSBYSFYRDDAU
Mae hysbysfwrdd newydd wedi ei osod yn Maes Sadwrn
12.ADOLYGIAD O WEFAN Y CYNGOR A CHYFATHREBIADAU ( CYFRYNGAU CYMDEITHASOL/FACEBOOK )
Cymeradwywyd y wefan gan y Cyngor Cymuned
13.CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU
Mae nifer o’r Cynghorwyr a’r Clerc, Stephanie wedi cwblhau hyfforddiant , ond mae rhai yn aros i’w cwblhau
14.CYRSIAU HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD CYNGOR SIR DDINBYCH
Cafodd y cwrs diweddaraf ei ganslo a bydd yn cael ei ail drefnu
15.CYLLID
| Dyddiad | Talwyd i | Am | £ |
| 17/11/2025 | S Kelly | Treuliau | 11.25 |
| 18/11/2025 | S Kelly | Cyflog | Preifat |
| 24/11/2025 | Un Llais Cymru | Hyfforddiant T Marshall | 42.00 |
| 5/12/2025 | I Carrie Costco | Bagiau Bin, T Roll a Papur | 24.27 |
| 17/12/2025 | Angeline Lawson | Coeden Nadolig | 130.00 |
| 17/12/2025 | Scottish Power | Trydan i’r toiledau | 100.66 |
| 17/12/2025 | Neuadd yr Eglwys Henllan | Llogi ystafell I Gyfarfod Rhagfyr | 30.00 |
| 17/12/2025 | Gareth O Evans | Cyflog Hydref Tachwedd a Rhagfyr | Preifat |
| 18/12/2025 | S Kelly | Cyflog | Preifat |
| 18/12/2025 | S Kelly | Treuliau | Preifat
|
16.CEISIADAU CYNLLUNIO
Dim
17.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Dim
18.MATERION FFYRDD YN HENLLAN
Nodwyd gan Clwyd Spencer nad oedd unrhyw gerbydau graeanu wedi bod ar y ffyrdd cyn 9am, ac ‘roedd ebost wedi ei anfon i Delyth Jones yn gofyn am fanylion y polisi graeanu. Mae dau flwch graean angen eu hail lenwi a dau sydd angen caeadau newydd.
Nodwyd hefyd fod angen llinnell I ddynodi’r gyffordd yn Stryd yr Eglwys, gan ei fod yn gallu bod yn beryglus.
19.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Dim cynghorwyr Sir Ddinbych yn bresennol yn y cyfarfod
20.POLISI COD YMDDYGIAD
Roedd copi o’r ddogfen yn cynnwys y polisi cod ymddygiad wedi ei anfon i bob cynghorydd, ac fe gymeradwywyd y ddogfen gan y cynghorwyr.
21.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION
Gofynnodd Clwyd Spencer i ddau lofnod fod yn angenrheidiol i daliadau cyflog staff y cyngor
Nododd Helen Clift fod biniau sbwriel y pentref yn llawn o sbwriel cartref.
Roedd ebost wedi ei dderbyn gan Craig Williams ynglyn a phrosiect a gynhelir gyda phlant ysgol uwchradd yn yr Ardd Wenyn. Dywedodd Helen ei bod yn mynd i ofyn ar Facebook am offer garddio, a gofynnwyd i’r mater gael ei roi ar agenda y cyfarfod nesaf
22.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
Cyfarfod nesaf y Cyngor – Mawrth 3ydd Chwefror 2026 yn Neuadd yr Eglwys Henllan am 7.00pm gan y bydd trafodaeth flaenorol ynglyn a datblygiad Cil-y-Coed

