1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Nathan Penfold, Cynghorydd Sir Ddinbych Delyth Jones a’r Clerc Stephane Kelly
2.YMDDIHEURIADAU
Tom Marshall, Helen Clift, Cerian Jones a chynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd Williams
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Ian Carrie, Merfyn Roberts, Gwyn Roberts- rhodd ar gyfer yr henoed a’r anabl.
Clwyd Spencer – rhodd ar gyfer sefydliad DPJ
4.TRAFODAETHAU AG AELODAU’R CYHOEDD
Neb yn bresennol
5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cadarnhawyd cofnodion 23ain Chwefor 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
- ARAFU CEIR YN HENLLAN
Dim newydd
7.COEDLAN HENLLAN A GARDD WENYN NEUADD YR EGLWYS
Bydd Ian Carrie yn apelio ar dudalennau Facebook Henllan am offer garddio ar gyfer yr ardd wenyn. Bydd Ian yn ateb ebost yr Heddwas Craig Williams a gofyn am i’r grant gael ei dalu i Neuadd yr Eglwys yn hytrach nag i gyfrif y .Cyngor Cymuned.
8.Y PARC UCHAF
Anfonwyd cais ebost am y Portacabin ar y cae chwarae. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn caniatau’r dwr yfed a phibell ddwr gwastraff i’w cysylltu a’r toiledau os bydd Cyngor Henllan yn rhoi caniatad. Pleidleiswyd o blaid hyn ar y ddealltwriaeth y byddai’r cyfleusterau ar gael i eraill e.e. “ Guides” yn gwersylla ar y cae. Disgwylir derbyn amcan-bris oddi wrth Chris Brown am ffens a netin newydd gan gwmni yng Nghorwen.
9.PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF
Mae peiriant newydd y Clwb Peldroed wedi cyrraedd ac wedi ei storio yn y Parc. Bydd Clwyd yn gofalu am beiriant Cyngor Cymuned Henllan nes iddo gael ei werthu.
10.CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU
Anfonwyd y manylion at y Cynghorwyr.
11.CYLLID
| 09:02:2026 | Neuadd yr Eglwys | Cyfarfod Ionawr | £30.00 |
| 09:02:2026 | Neuadd yr Eglwys | Cyfarfod Chwefror | £30.00 |
| 10:02:2026 | Stephanie Kelly | Arnold Baker Local
Council admin |
£180.00 |
| 17:02:2026 | Stephanie Kelly | Cyflog | Preifat |
| 20:02:2026 | Stephanie Kelly | Costau | Preifat |
|
|
12.CEISIADAU CYNLLUNIO
Garn, Henllan – Cais 29/2026/0618/LBC – ~Gwaith mewnol ar yr ystafell fwyta-Dim gwrthwynebiad
13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Cais gan Angeline Lawson ar ran Eglwys Sant Sadwrn ar gyfer cynnal a chadw’r Fynwent. Penderfynwyd talu £1000 ar ol dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.
Cais gan Alice Lovegrove Jones ar ran Henllan Brownies and Guides. Penderfynwyd talu £500
Cais gan Dewi Jones ar ran y Clwb peldroed merched dan 11. Penderfynwyd talu £500
Cais gan Henoed ac Anabl Dinbych ar gyfer trip i bobl Henllan. Penderfynwyd talu £200
Cais gan DPJ sy’n cynnal iechyd meddwl amaethwyr. Penderfynwyd talu £250
14.STRYDOEDD – MATERION FFYRDD
Dywedodd Delyth Jones nad oedd Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i ailosod y llinell Stop na’r arwydd.
Cadarnhawyd bod y blychau graean wedi’u llenwi ond heb eu trwsio.Bydd Cyngor Henllan yn cael golwg arnynt. Cafwyd cwynion am faw cwn yng Nghodre’r Garn. Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn yr ardal.
Bydd gwaith ail-wynebu Ffordd Meifod yn y flwyddyn ariannol newydd. Bydd y Cynghorydd Delyth Jones yn holi faint o waith a wneir.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud gwaith trwsio dros dro I’r hen arhosfan bysiau ar Stryd Dinbych Henllan.Bydd Ian Carrie am holi pa waith arall a wneir.
Cynhaliwyd cyfarfod ar ddyd Iau 19 Chwefror wrth ddatblygiad newydd Cil-y-Coed. Yn bresennol roedd y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Tom Marshall, Clwyd Spencer a Gwyn Roberts gyda dau o’r trigolion pryderus, Peter ( Glyn) Jones a Jonathan Parry Jones.
Bu cyfarfod gyda’r datblygwr Lee Webster a cytunwyd wedi gweld y terfyn wedi’i nodi’n glir ar gynlluniau ‘r Gofrestrfa Tir, pam fod y gwrych a’r coed wedi eu symund i ddangos yn gywir y ffin rhwng cefn Glasfryn a datblygiad newydd Cil-y-Coed. Cytunodd pawb ar y safle fod angen ychydig o waith ar y terfyn y tu ol i rif 11 Glasfryn, codi’r ffens newydd rhwng Glasfryn a Cil-y-Coed a phlannu gwrych llawryf cyn gynted ag y bo modd ar ochr y stad newydd i’r ffens newydd. Bellach cafwyd cadarnhad ysgirfennedig gan y contractwyr.
15.BINiAU SBWRIEL
Mae Nia Bellis wedi siarad a rhywun am gael arwydd “ Dim Sbwriel Domestig “ ar gyfer y biniau cyhoeddus. Cadarnhaodd Delyth Jones fod Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried hyn. Mae’r Sir yn pwysleisio mai ar gyfer sbwriel a baw cwn yn unig mae’r biniau cyhoeddus.
16.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Mae treth y Cyngor wedi’i osod bellach. Sir Ddinbych yw un o’r rhai isaf yng Nghymru.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwahodd Cynghorwyr i ymweld a’r safle ar Stryd Henllan ar 23ain Mawrth . Cafwyd cadarnhad y bydd fflatiau un lloft ar gael.
Mae arian ychwanegol wedi dod gan y Llywodraeth ar gyfer Gorfodi a hefyd i gefnogi pobl ifanc mewn gofal. Gall cartrefu person ifanc fod yn ddrud iawn, yn enwedig y tu allan i’r Sir, Mae Sir Ddinbych yn datblygu eu pecyn eu hunain i gefnogi Gofalwyr Maeth , gan gynnwys rhyddhad o Dreth y Cyngor. Mae Cynlluniau Pendref a’r Ysgol Uwchradd yn mynd yn eu blaen ac wedi’u cyhoeddi ar gyfer tendro.Disgwylir penderfyniad ar Pendref erbyn diwedd y mis.
Cadarnhaodd Sir Ddinbych mai “ Arena Mike Peters” fydd enw’r ystafell ymgynnull ym Marchnad y Frenhines.
Cam nesaf Pwll y Grawys fydd y cynllun terfynol gan anelu at Hydref 26/Gwanwyn 27. Bydd peth anrhefn .ond daw gwelliant
17.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION
Dim
18.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
CYFARFOD NESAF Y CYNGOR – NOS FAWRTH 7ED EBRILL 2026 AM 7.30 YN NEUADD YR EGLWYS HENLLAN

