Mae Cyngor Cymuned Henllan wedi gwneud cais llwyddiannus i Un Llais Cymru am hadau peillio ychwanegol sy’n gyfeillgar i wenyn ar gyfer Gardd Wenyn Sefydliad yr Eglwys.

Mae’r cais llwyddiannus hwn i wella Bioamrywiaeth yn ein mannau gwyrdd cymunedol, ac rydym yn diolch i Eleri Llwyd-Jones a’r gwirfoddolwyr sy’n gofalu am Ardd Wenyn Sefydliad yr Eglwys.

Ariannwyd yr hadau hyn gan Un Llais Cymru a Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.