1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Caderiydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Nathan Penfold, Tom Marshall a’r Clerc Stephanie Kelly
2.YMDDIHEURIADAU
Helen Clift, Nia Bellis, Cerian Jones, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards, Delyth Jones, Geraint Lloyd-Williams
3.DATGANIADAU DIDDORDEB
Dim
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD
Roedd Stephen Newton a Leon Gierke wedi dod i hysbysu’r Cyngor am gais gan Gwmni o Fuddsoddwyr Eidalaidd ar gyfer Fferm Wynt Mynydd Tryfan. Mae tri thy annedd yn agos at safle’r twrbiniau ac uchder y rheiny’n 180 medr. Gan fod yr ardal yn un arbennig fel tirwdd, caiff ei ddiffinio yn ardal o ddiddordeb. Os caiff y cynllun ei ganiatau, bydd yn golygu newid ffyrdd a phontydd a difetha gwrychoedd. Gofynnir i Gynghorau Cymuned yr ardal wrthwynebu’r cais a fyddai’n effeithio ar nifer o bentrefi. Barn Cyngor Diogelu Cymru Wledig yw nad oes angen y twrbinau.
5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cadarnhawyd Cofnodion 3ydd Mawrth 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
6.DULLIAU ARAFU TRAFFIG YN HENLLAN
Cawsai arwyddion Ffordd y Groes eu troi i ddangos y cyfyngiad cyflymder cyffredinol trwy’r pentref, ond mae Ian Carrie wedi gofyn i Gyngor Sir Ddinbych eu troi yn ol.
7.COEDLAN HENLLAN A’R ARDD WENYN
Roedd Ian Carrie wedi apelio ar dudalennau Facebook Henllan am offer garddio i’r Ardd Wenyn wrth Neuadd yr Eglwys. Cafwyd ymateb da a’r angen bellach yw am rywle i’w storio
8.Y PARC UCHAF
Yn dal i aros am bris gan Chris Brown oddi wrth gwmni yng Nghorwen am ffens a netin
9.PEIRIANT TORRI GLASWELLT I’R PARC UCHAF
Mae peiriant Cyngor Cymuned Henllan gan Clwyd o hyd. Mae ganddo olwyn fflat ar hyn o bryd.
10.CYRSIAU UN LLAIS CYMRU
Anfonwyd y manylion at y Cynghorwyr
11.CYLLID
| 7ed Mawrth 2026 | Clwb Peldroed Henllan | Grant | £500.00 |
| 7ed Mawrth 2026 | Henllan Brownies and Guides | Grant | £300 |
| 7ed Mawrth 2026 | Stephanie Kelly | Cyflog | Preifat |
| 9ed Mawrth 2026 | DPJ Foundation | Cefnogaeth Iechyd Meddwl i’r Gymuned Amaethyddol | £250.00 |
12.CEISIADAU CYNLLUNIO
Dim
13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Dim
14.MATERION FFYRDD
Danadl poethion wrth Ffordd Meifod ger Maes Sadwrn. Mae Ian wedi gofyn i Gyngor Sir Ddinbych eu torri’n ol. Mae’r blychau graean yn llawn, mae Nathan yn mynd i sicrhau bod yr un agosaf ato ef wedi ei lenwi. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi darparu arwyddion Baw Cwn i’w gosod yn Godre’r Garn.
15.BINIAU SBWRIEL
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cadw golwg ar y biniau a bydd swyddogion gorfodaeth ar gael
16.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Dim
17.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION
Mae Sgrap Ystâd Cil y Coed bellach wedi’i ddileu.
Mae Scottish Power wedi dechrau cloddio er mwyn gosod cablau.
Oes gobaith gosod tarmac er mwyn i bobl anabl chwarae Pel Fasged mewn cadeiriau olwyn
A fyddai siawns o gael tarmac ger yr Ardal Pêl-fasged fel y gall pobl anabl chwarae mewn cadeiriau
olwyn, efallai mai Tai DCC yw hwn.
Mater i Adran Dai Cyngor Sir Ddinbych efallai
18.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 5ed Mai 2026 am 7.00 ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol a 7.30 i’r Cyfarfod arferol yn Neuadd yr Eglwys Henllan

