PRESENNOL
Y Cyngorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Cerian Jones , Gwyn Roberts, Nia Bellis, Merfyn Roberts, Tom Marshall, Clwyd Spencer a’r Clerc Stephanie Kelly
1.YMDDIHEURIADAU
Y Cynghorwyr Nathan Penfold, Helen Clift, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd-Williams
2.ETHOL CADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2025/2027
Ail-etholwyd y Cynghorydd Jackie Jones
3.ETHOL IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2026/2027
Ail-etholwyd y Cynghorydd Ian Carrie
4.ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD
Rhoddwyd adroddiad llafar. Penodwyd y Cynghorydd Tom Marshall a’r Clerc newydd Stephanie Kelly yn ystod y flwyddyn.. Tynnodd Jackie sylw i’r rhoddion i achosion teilwng gan gynnwys diwrnod allan i’r Henoed ac Anabl Dinbych, Sefydliad DPJ sy’n rhoi cefnogaeth iechyd meddwl i’r gymuned amaethydddol. Hefyd grantiau i Fynwent Eglwys Henllan ar gyfer torri gwair, etc, Capel MC Henllan tuag ar organ newydd , Grwp Gweithgarwch Plant Henllan, Sioe Flodau Henllan, Clwb Peldroed Henllan a “ Brownies “ a “ Guides “ Henllan. Diolch yn ddyledus i Nia Bellis a Delyth Jones am eu cymorth gyda mater y Parc Uchaf. Diolch hefyd i Gareth Owen Evans am ofalu am doiledau cyhoeddus Henllan. Diolch hefyd i Ian Carrie am ei gymorth yn ystod y flwyddyn.
5.CYNRYCHIOLI’R CYNGOR AR BWYLLGORAU ERAILL
A.Elusennau Plwyf Henllan Merfyn Roberts
B.Pwyllgor Cymorth Cristnogol Gwyn Roberts
C.Pwyllgor Ardal Un Llais Cymru Ian Carrie a Stephanie Kelly
D.Llywodraethwr Ysgol Henllan Gwyn Roberts
Penderfynwyd cymeradwyo Rheolau Sefydlog Cyngor Cymuned Henllan am flwyddyn arall heb newid.
Daeth y cyfarfod i ben am 7.20pm

