1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Cerian Jones , Nia Bellis. Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Cynghorydd Sir Ddinbych Delyth Jones a’r Clerc, Stephanie Kelly.
2.YMDDIHEURIADAU
Helen Clift, Nathan Penfold, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd Williams.
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Dim
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD
Neb yn bresennol
5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cadarnhawyd Cofnodion 2il Ebril 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
6.ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN
Roedd Jackie Jones ac Ian Carrie wedi dal 15 car yn gwneud dros 20 milltir yr awr a rhoi’r manylion i’r Heddlu a fydd yn anfon rhybuddion at y gyrrwyr
7.COEDLAN HENLLAN A’R ARDD WENYN
Penderfynwyd estyn rhodd o £200 i’r Ardd Wenyn
8.Y PARC UCHAF
Erbyn hyn mae tri amcanbris gennym am y ffens newydd a bydd Ian yn mynd a’r mater ymlaen..
Ni all Rebecca o Gyngor Sir Ddinbych ddod o hyd i’r drwydded i feddiannu darn o dir yng nghornel y Par Uchaf ac mae hi’n mynd i drefnu i drwydded newydd i gael ei lofnodi gan y trwyddedwyr
Mae cyswllt dwr a charffosiaeth bellach i’r portacabin
9.PEIRIANT TORRI GWAIR Y PARC UCHAF
Mae peiriant y Cyngor Cymuned yn dal gan Clwyd gydag olwyn fflat.Gofynwyd i Clwyd gael pris am ei werth.
10.CYRSIAU HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU
Dylai unrhyw un sydd a diddordeb gysylltu ag Ian neu Stephanie.
11.CYLLID
| 1 Ebrill 2026 | Eglwys Henllan | Torri gwair ac ati | £1000.00 |
| 1 Ebrill 2026 | Un Llais Cymru | Aelodaeth 2026 | £183.00 |
| 18 Ebrill 2026 | Gareth O Evans | Cyflog a tal gwyliau | Preifat |
| 18 Ebril 2026 | Stephanie Kelly | Cyflog a thal gwyliau | Preifat |
| 18 Ebrill 2026 | Stephanie Kelly | Costau ( Mis Mawrth) | Preifat |
| 16 Ebrill 2026 | Cyllid y Wlad | Treth a yswiriant gwladol | £336.69 |
| 22 Ebrill 2026 | Neuadd yr Eglwys | LLogi ( Ebrill ) | £35.00 |
| 22 Ebrill 2026 | Harold Smith | Gwasanaethau cyflogau | £180.00 |
| 29 Ebrill 2026 | Ian Carrie | Papur Toiled | £18.58 |
| 14 Ebrill 2026 | Cyllid y Wlad | Ad-daliad TAU | £504.53 |
12.CEISIADAU CYNLLUNIO
20/2026/0168 Cais i gwympo coeden. Dim gwrthwynebiad
13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Derbyniwyd cais gan un o drigolion y pentref a oedd yn poeni am goeden yn Stryd yr Ysgol, ac a oedd yn gofyn i’r Cyngor gysidro cael gwared ohonni am resymau diogelwch.
14.FFYRDD
Mae gwaith ar y ffyrdd ar restr Cyngor Sir Ddinbych i’w wneud eleni
Daeth cwyn ynglyn a pharcio pan fydd gem peldroed. Mae Delyth wedi gofyn barn y Cyngor Sir. Trafodwyd y posibilrwydd o ofyn am ganiatad i ddefnyddio maes parcio’r Llindir.
15.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Cafwyd grant i gwblhau gwaith Pwll y Grawys.Mae hyn i’w wneud cyn dechrau ar gynllun safle hen Ysbyty Gogledd Cymru.
16 MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION
Dangosodd Ian Carrie wefan newydd Cymuned Henllan sydd ag adran ar gyfer y Cyngor Cymuned.
Roedd Canlyniad Archwiliad 2025-2026 yn foddhaol.
17.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 2il Mehefin 2026 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan

