1.PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Nia Bellis, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards, Delyth Jones a’r Clerc, Stephanie Kelly

2.YMDDIHEURIADAU

Y Cynghorydd Cerian Jones a Cynghorydd Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams

3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Clwyd Spencer a Gwyn Roberts – y ddau’n aelodau pwyllgor Clwb Peldroed Henllan

4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD

Roedd dau wedi dod i’r cyfarfod i drafod gwli wrth 9 a 10 Godre’r Garn yn gorlifo ar adegau.Gofynnodd y Cynghorydd Pauline Edwards iddynt anfon ebost ati hi iddi gael cysylltu a Chyngor Sir Ddinbych. Cafwyd cwyn hefyd am ganhghennau coed wrth Lon y Garn yn ei gwneud hi’n anodd gweld. Bydd y Cynghorydd Ian yn cysylltu a pherchennog y Garn

5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Cadarnhawyd cofnodion 5ed Mai 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd

6.ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN

Trafodwyd mesur cyflymder cerbydau mawr yn trafaelio i fyny ac i lawr Lon y Garn

 

7.COEDLAN HENLLAN A’R ARDD WENYN

Cadarnhaodd Ian Carrie iddo archebu planhigion bioamrywiol.Soniwyd bod Rob, un o drigolion Henllan eisioes wedi llenwi un gwely gyda planhigion. Penderfynwyd anfon llythyr o ddiolch iddo am ei waith called.

8.Y PARC UCHAF

Derbyniwyd y drwydded, ond mae’r dyddiad arni’n anghywir. Ni chlywyd os oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd camau ynglyn a hysbysebu’r trosglwyddiad arfaethedig a bydd y Cynghorydd Delyth Jones yn gwneud ymholiadau.

9.PEIRIANT TORRI GWAIR

Dim newydd

10.CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU

Dylai unrhyw un a diddordeb gysylltu a Stephanie neu Ian

11.CYLLID

22 Ebrill 2026 Neuadd yr Eglwys LLogi ( Ebrill ) 35.00
22 Ebrill 2026 Harold Smith Gwasanaethau cyflogi 180.00
29 Ebrill 2026 Ian Carrie Papur Toiled 18.58
6ed Mai 2026 Neuadd yr Eglwys Yr ardd Wenyn 200.00
6ed Mai 2026 Neuadd yr Eglwys Llogi ( Mai) 35.00
12 Mai 2026 Stephanie Kelly Costau ( Mai ) Preifat
12 Mai 2026 Stephanie Kelly Cyflog Preifat
.

 

Cyllid y Wlad Treth 7.60
26 Mai 2026 Gareth O Evans Cyflog ( Ol daliad) Preifat
29 Mai 2026 Clear Councils Yswiriant 700.30

 

Derbyniwyd tri amcan-bris am netin i’r Parc Uchaf sef £2234, £2092 a £2874. Mae grant am £1283 a bydd modd cael ad-daliad o’r TAW, felly’r gost i’r Cyngor fyddai £578.06, £469.93 neu £632.00.Penderfynwyd derbyn £459.93 ( amcan-bris £2092 ) Ymataliodd Clwyd Spencer a Gwyn Roberts rhag pleidleisio. Bydd Ian yn cysylltu a Chyngor Sir Ddinbych ynglyn a’r grant.

 

12.CEISIADAU CYNLLUNIO

28/2026/0227/TC   Cwympo onnen. Dim gwrthwynebiad ond teimlwyd y dylid plannu coeden yn ei lle. Bydd Stephanie’n ebostio’r Swyddog Coed.

13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT

Roedd Ian wedi derbyn cwyn am swp anferth o bridd a adawyd ar Cil y Coed yn ymyl tai Maes Sadwrn. Mae Ian wedi e-bostio perchennog y safle

14.MATERION FFYRDD

Mae cerbydau trwm wedi taro arwyddion ar Ffordd Llannefydd. Bydd Ian yn cael golwg ar yr arwyddion

15.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Bydd cyfle i gynghorwyr tref fynd i gyfarfod i drafod cyllideb ffyrdd. Yn ol y Cynghorydd Delyth Jones, mae’n bendant bod y gwaith ar ffyrdd Meifod a Bryn y Garn ar y cynllun. Mae cytundeb Ysbyty Gogledd Cymru wedi’I harwyddo. Mae pryder wedi bod am ddiogelwch yr adeilad.

Mae heddlu Dinbych yn trefnu cyfarfod yn Neuadd y Dref i drafod cynllun i wella canol y dref a datblygu marchnad. Nid yw Cyngor Tref Dinbych yn awyddus i brynu Neuadd y Dref, ond mae trafodaethau ynglyn a’r adeilad yn digwydd.

Mae’r toiledau cyhoeddus wedi cau, ond caiff y cyhoedd ddefnyddio rhai’r Hwb.

Bydd cyfarfod cyhoeddus brys am 6.45 ar 12ed Mehefin yn Ysgol Twm o’r Nant i gael gwybodaeth am y newidiadau yn yr hinsawdd.

16.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Dim

17.MATERION BRYS DAN ADRAN 100(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dim

Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 7ed Gorffennaf 2026 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan