1PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd) Ian Carrie ( Is-gadeirydd ) Clwyd Spencer, Tom Marshall, Nia Bellis, Cerian Jones, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Delyth Jones a’r Clerc Stephanie Kelly. Hefyd, y darpar gynghorydd Nick Mariott

  1. YMDIHEURIADAU

Merfyn Roberts, Gwyn Roberts a Chynghorydd Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams

  1. DATGANIADAU DIDDORDEB

Dim

4. TRAFODAETHAU AG AELODAU’R CYHOEDD

Dim

  1. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Cadarnhawyd Cofnodion cyfarfod 2ail Mehefin 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd

  1. MESURAU ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN

Ar 15ed Gorffennaf bydd ymgyrch arbennig yn erbyn gor-yrru trwy Ogledd Cymru

  1. Y GOEDLAN, YR ARDD WENYN A’R GWELYAU BLODAU

Mae Eleri, Plas Meifod, wedi cynnig gofalu am y gwely blodau o flaen y fferm ar ben Ffordd Meifod. Rydym wedi gofyn iddi hawlio gan Stephanie neu Ian ad-daliad o’i chostau am ddefnyddiau.

Dim arwydd  ar gyfer y Goedlan – bydd Ian yn gofyn eto

8. Y PARC UCHAF

Roedd Rebecca i gysylltu a Mr a Mrs Williams oedd a’r drwydded wreiddiol o ddarn o dir yn y Parc Uchaf i weld a ellid arwyddo un newydd. Bydd  Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysebu eu bwriad i drosglwyddo’r Parc Uchaf i Gyngor Cymuned Henllan. Mae Ian wedi archebu “ Ball Stop Posts” gyda arian y grant a deellir eu bod eisioes wedi cyrraedd.

9. PEIRIANT TORRI GWAIR I’R PARC UCHAF

Trwsiwyd y teiar erbyn hyn ac mae Saracen’s Tyre Service wedi cynnig £1500 am y peiriant. Pleidleisiodd y cyfarfod o blaid gwerthu’r hen beiriant am y pris yma

  1. CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU

Dylai unrhyw un sydd a diddordeb gysylltu a Stephanie. Dangosodd Jackie ac Ian ddiddordeb mewn dau gwrs newydd ar y rhyngrwyd ac ebyst

 

  1. CYLLID
3 Mehefin 2026 Neuadd yr Eglwys Henllan Llogi £35.00
3 Mehefin 2026 Ian Carrie Blodau I Pauline Edwards £40.00
3 Mehefin 2026 Peter Smith Tocyn Siop Clwyd £40.00
6 Mehefin 2026 Scottish Power Trydan I’r toiledau £110.94
       

 12. CEISIADAU CYNLLUNIO

Dim

  1. GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT

Ebost gan Helen Corcoran yn diolch i ni am sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych wedi glanhau pob gwli yn Godre’r Garn i rwystro llifogydd.

 14. MATERION Y FFYRDD

Mae Ian wedi gofyn i Lon y Garn gael ei hysgubo. Mae arwydd ffordd Maes Sadwrn ar lawr, ac y mae Ian wedi hysbysu Cyngor Sir Ddinbych. Cododd Clwyd fater parcio pan fydd gem peldroed. Mae’r Llindir wedi cydsynio i’r maes parcio gael ei ddefnyddio. Bydd Clwyd yn codi’r mater ym mhwyllgor nesaf y Clwb Peldroed.

  1. MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Mae Gorchmynion Cadwraeth Coed trwy’r sir yn cael eu hadolygu a gall fod newidiadau. Hysbyswyd Cyngor Cymuned Henllan fod Tim Gorfodi yn y sir ar hyn o bryd yn chwilio am enghreifftiau o sbwriel yn cael ei adael, baw cwn, biniau sbwriel ac ail-gylchu. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflogi naw ar gyfer y gwaith yma, sydd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Addysgu a chefnogi pobl yw’r prif bwrpas, ond mae’n bosibl y daw dirwyon mewn ambell achos. Bydd adroddiad yn yr Hydref am y bagiau glas ar gyfer ail-gylchu cardfwrdd.

Bydd Cynghorwyr Sir Ddinbych I gyd yn cael cyfle i weld ffilm am argyfwng yr hinsawdd. Y gobaith ydi y bydd y Cynghorwyr Cymuned hwythau’n cael cyfle I’w gwylio.

16.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Mae Clwyd wedi cael hanes gwr sydd a diddordeb mewn llenwi sedd wag ar y Cyngor

         Bydd yn gofyn iddo wneud cais

17    MATERION BRYS DAN ADRAN 100B (4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1973

        Dim

 

Cyfarfod nesaf y Cyngor – nos Fawrth 1af Medi 2026 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan