PRESENNOL – Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie (Is-Gadeirydd ) Cerian Jones, Nia Bellis, Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Nick Marriot, Aled Ellis, Cynghorwyr Sir Ddinbych Delyth Jones, Pauline Edwards a’r Clerc Stephanie Kelly

 

1.CROESO i’r ddau Gynghorydd newydd, Nick Marriot ac Aled Ellis

2.YMDDIHEURIADAU     – Geraint Lloyd Williams

3.DATGANIADAU DIDDORDEB       Cerian a Gwyn ( yr Ysgol ) Clwyd a Gwyn ( Y Clwb Peldroed )  Tom ( Sioe Flodau )

4.TRAFODAETHAU A’R CYHOEDD

Anerchodd Charlotte Jones y Cyngor ar ddangos y ffilm “ National Emergency Briefing” yn Neuadd yr Eglwys. Mae Charlotte yn ystyried y posiblrwydd o’i dangos ar 9ed, 10ed neu’r 16eg, 17eg Hydref. Gofynnodd Charlotte a fyddai gan aelodau’r Cyngor ddiddordeb mewn helpu gyda’r trefniadau e.e. trefnu lluniaeth, dosbarthu posteri a thrafodaeth yn dilyn y ffilm etc

Cwynion am y bwthyn gwyliau Tentoeleven Stryd yr Eglwys Henllan. Daeth nifer o drigolion yn hysbysu’r Cyngor o broblemau ynglyn a Tentoeleven Stryd yr Eglwys. Yn eu plith mae parcio, gan fod nifer o gerbydau yno yr un pryd. Mae’r ymwelwyr yn defnyddio’r twb poeth, sydd yn agos i ffenestr llofft cymydog ar adegau anaddas, yn aml hyd at dri o’r gloch y bore, sydd yn tarfu ar gymdogion, gan gynnwys y rhai drws nesaf sydd a phlentyn ifanc a’r rhieni’n gweithio shifftiau. Nid yw’r gwastraff masnachol yn cael ei gasglu ac o’r herwydd ceir arogleuon drwg a llygod mawr. Ni chafodd y cymdogion wybod bod y ty yn cael ei ddefnyddio i gadw ymwelwyr a dyma sydd wedi achosi’r problemau parcio. Mae’r perchennog wedi rhoi arwydd “ dim parcio” o flaen y ty. Codwyd hefyd fater symud wal wrth y ty a llyfnhau’r cyrbiau.

Roedd Delyth wedi ymchwilio ‘r mater. Mae Chris Evans y Swyddog Cadwraeth, wedi ymweld a’r bwthyn ac wedi cadarnhau nad oes angen caniatad cynllunio i symud y wal gan fod ei huchder yn llai na metr ac y mae Chris yn fodlon ar y ffordd y mae’r gwaith wedi’i gwblhau. Nid oes angen caniatad ar gyfer y cwrb gan nad yw’n croesi llwybr cerdded. Nid oes modd gorfodi “ dim parcio” ac nid yw’r arwyddion yn gyfreithlon. Os bydd i’r perchennog geision gorfodi “ dim parcio” caiff y cymdogion hysbysu’r heddlu. Os bydd cerbyd yn parcio o flaen yr eiddo, mae ei hanner ar y ffordd gyhoeddus. Mae’r ty’n cael ei hysbysebu gyda AirBnB a Sykes Cottages gyda man parcio. Nid yw hyn yn wir a dylid ei newid. Mae hefyd son am ffens sydd wedi ei symud, nad oes modd bellach i geir fynd i fyny neu i lawr Lon Fain a bod car wedi’i ddifrodi. Mae angen holi’r Gofrestrfa Dir am union leoliad y terfyn. Cynt, yr oedd ceir yn gallu trafeilio i fyny ac i lawr Lon Fain.

5.CADARNHAU COFNODION CYFARFOD DIWETHAF Y CYNGOR

Cadarnhawyd Cofnodion nos Fawrth 7ed Gorffennaf a hefyd cyfarfod arbennig 10ed Gorffennaf 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd.

6.TAWELU TRAFFIG YN HENLLAN

Nid yw aelodau’r grwp mesur cyflymdra wedi bod wrthi dros y ddau fis diwethaf. Mae Nia wedi clywed am sawl ffrwgwd dros yr haf ar ben uchaf Ffordd y Garn ac yn gofyn an fwy o arwyddion. Bydd Nick yn gwneud cais i Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych am well arwyddion.

7.COEDLAN HENLLAN A GWELYAU BLODAU

Yn dal i aros am arwydd i’r Goedlan

8.Y PARC UCHAF

Erbyn hyn mae’r pyst i atal peli wedi cyrraedd a thalwyd amdanynt.Mae Ian wedi eu gweld ar y cae ac ar ol eu gosod yn eu lle  bydd Chris yn archebu’r union faint o netin fydd ei angen.

9.PEIRIANT TORRI GWAIR Y PARC UCHAF

Mae hwn wedi’i werthu a’r arian wedi’i roi yng nghyfrif trafod Cyngor Cymuned Henllan. Llawer o ddiolch i’r Cynghorydd Clwyd Spencer.

10.UN LLAIS CYMRU

Os oes cyrisau sydd o ddiddordeb i’r Cynghorwyr dylid rhoi gwybod i Stephanie neu Ian.

11.CYLLID

Taliadau o Gyfrif Trafod Cyngor Cymuned Henllan rhwng 11 Mehefin 2026 ac 11 Awst 2026

13 Gorffennaf 2026 Ian Carrie aelodaeth CCH a costau £30.00
13 Gorffennaf 2026 Ian Carrie Cadachau Papur Costco i’r Toiledau £27.58
13 Gorffennaf 2026 Un Llais C ymru  Stephanie Hyfforddiant Modiwl 1 £42.00
16 Gorffennaf 2026 Dwr Cymru. Tal Dwr a Charffosiaeth i’r Toiledau £99.00
17 Gorffennaf 2026 Harold Smith. Archwiliad mewnoli i’r Cyfrifon £414.00
20 Gorffennaf 2026 Ian Carroe Costau I Pad i’r Cadeirydd £399.99
21 Gorffennaf 2026 Ian Carrie Amazon Cas i’r I Pad £21.59
8 Awst 2026 Russell Welding Pyst i’r Parc Uchaf £1530.00

 

Derbyniadau i Gyfrif Trafod CCH rhwng 11 Mehefin 2026 a 11 Awst 2026

10 Goffennaf 2026 Gwerthu’r peiriant torri gwair £1500.00

 

12.CEISIADAU CYNLLUNIO

Dim hyd at 11eg Awst 2026

13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU AM GRANT

Cais am grant gan Ysgol Gymraeg Henllan ar gyfer mesurau arbed ynni.

Cais am grant i’r  Neuadd am synhwyrydd i’r goleuadau gan nad ydynt yn diffodd yn awtomatig. Mae’r cais am £465. Gofyn am gopi o’r cyfrifon  cyn penderfynnu.

Cais am grant gan Neuadd yr Eglwys Henllan am £1000 i gefnogi Sioe Flodau Henllan. Gofyn am gopi o’r cyfrifon  cyn penderfynnu

Trafodir y ddau gais yng nghyfarfod mis Hydref.

14.MATERION STRYDOEDD ( FFYRDD )

Cais i Adran Ffyrdd Cyngor Sir Ddinbych am ganiatad i godi arwyddion “ Speed Watch” yn Henllan – dal i aros am ateb

Perygl baglu ar bafin Stryd Dinbych Henllan  – Atgyweirwyd

Tyllau yn y ffordd – Atgyweirwyd

Cwyn i Gyngor Sir Ddinbych – Trwsio hen arhosfan bysiau – Stryd Dinbych Henllan – dal i aros.

Bydd Ian yn cysylltu a’r adran Ffyrdd ynglyn a llifogydd Bronllan a’r angen i lanhau’r rhigolau

Dywedodd Delyth y disgwylir i Ffordd Meifod a Ffordd Bryn y Garn gael wyneb newydd ym mis Chwefror 2027 yn ystod wythnos hanner tymor

 

 

 

15.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Mae’r Gwaith cynllunio ar gyfer Pwll y Grawys wedi’i gwblhau a bydd y Gwaith ei hun yn dechrau yn Ionawr. Bydd dau gylchdro gyda mannau i gerddwyr groesi a dwy safle ar gyfer bysiau

16.MATERION ERAILL YN DEILLIO O’R COFNODION

Dim

17.MATERION  BRYS DAN ADRAN 100B (A|) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dim

Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 6 Hydref 2026 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan