1.PRESENNOL

Y Cynghorwyr Jackie Jones  ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Cerian Jones , Nia Bellis. Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Cynghorydd Sir Ddinbych Delyth Jones a’r Clerc, Stephanie Kelly.

2.YMDDIHEURIADAU

Helen Clift, Nathan Penfold, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd Williams.

3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Dim

4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD

Neb yn bresennol

5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Cadarnhawyd Cofnodion 2il Ebril 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd

6.ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN

Roedd Jackie Jones ac Ian Carrie wedi dal 15 car yn gwneud dros 20 milltir yr awr a rhoi’r manylion i’r Heddlu  a fydd yn anfon rhybuddion at y gyrrwyr

7.COEDLAN HENLLAN A’R ARDD WENYN

Penderfynwyd estyn rhodd o £200 i’r Ardd Wenyn

8.Y PARC UCHAF

Erbyn hyn mae tri amcanbris gennym am y ffens newydd a bydd Ian yn mynd a’r mater ymlaen..

Ni all Rebecca o Gyngor Sir Ddinbych ddod o hyd i’r drwydded i feddiannu darn o dir yng nghornel y Par Uchaf  ac mae hi’n mynd i drefnu i drwydded newydd i gael ei lofnodi gan y trwyddedwyr

Mae cyswllt dwr a charffosiaeth bellach i’r portacabin

 9.PEIRIANT TORRI GWAIR Y PARC UCHAF

Mae peiriant y Cyngor Cymuned yn dal gan Clwyd gydag olwyn fflat.Gofynwyd i Clwyd gael pris am ei werth.

10.CYRSIAU HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU

Dylai unrhyw un sydd a diddordeb gysylltu  ag Ian neu Stephanie.

11.CYLLID

1 Ebrill 2026 Eglwys Henllan Torri gwair ac ati £1000.00
1 Ebrill 2026 Un Llais Cymru Aelodaeth 2026 £183.00
18 Ebrill 2026 Gareth O Evans Cyflog a tal gwyliau Preifat
18 Ebril 2026 Stephanie Kelly Cyflog a thal gwyliau Preifat
18 Ebrill 2026 Stephanie Kelly Costau ( Mis Mawrth) Preifat
16 Ebrill 2026 Cyllid y Wlad Treth a yswiriant gwladol £336.69
22 Ebrill 2026 Neuadd yr Eglwys LLogi ( Ebrill ) £35.00
22 Ebrill 2026 Harold Smith Gwasanaethau cyflogau £180.00
29 Ebrill 2026 Ian Carrie Papur Toiled £18.58
14 Ebrill 2026 Cyllid y Wlad Ad-daliad TAU £504.53

 

12.CEISIADAU CYNLLUNIO

20/2026/0168   Cais i gwympo  coeden. Dim gwrthwynebiad

13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT

Derbyniwyd cais gan un o drigolion y pentref a oedd yn poeni am goeden yn Stryd yr Ysgol, ac a oedd yn gofyn i’r Cyngor gysidro cael gwared ohonni am resymau diogelwch.

14.FFYRDD

Mae gwaith ar y ffyrdd ar restr Cyngor Sir Ddinbych i’w wneud eleni

Daeth cwyn ynglyn a pharcio pan fydd gem peldroed. Mae Delyth wedi gofyn barn y Cyngor Sir. Trafodwyd y posibilrwydd o ofyn am ganiatad i ddefnyddio maes parcio’r Llindir.

15.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH

Cafwyd grant i gwblhau gwaith Pwll y Grawys.Mae hyn i’w wneud cyn dechrau ar gynllun safle hen Ysbyty Gogledd Cymru.

16 MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION

Dangosodd Ian Carrie wefan newydd Cymuned Henllan sydd ag adran ar gyfer y Cyngor Cymuned.

Roedd Canlyniad Archwiliad 2025-2026  yn foddhaol.

17.MATERION BRYS DAN ADRAN 100B(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dim

Cyfarfod nesaf y Cyngor  – Nos Fawrth  2il Mehefin 2026 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan