PRESENNOL

Y Cyngorwyr Jackie Jones  ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Cerian Jones , Gwyn Roberts, Nia Bellis, Merfyn Roberts, Tom Marshall, Clwyd Spencer a’r Clerc Stephanie Kelly

1.YMDDIHEURIADAU

Y Cynghorwyr Nathan Penfold, Helen Clift, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards a Geraint Lloyd-Williams

2.ETHOL CADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2025/2027

Ail-etholwyd y Cynghorydd Jackie Jones

3.ETHOL IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2026/2027

Ail-etholwyd y Cynghorydd Ian Carrie

4.ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD

Rhoddwyd adroddiad llafar. Penodwyd y Cynghorydd Tom Marshall a’r Clerc newydd Stephanie Kelly yn ystod y flwyddyn.. Tynnodd Jackie sylw i’r rhoddion i achosion teilwng gan gynnwys diwrnod allan i’r Henoed ac Anabl Dinbych, Sefydliad DPJ sy’n rhoi cefnogaeth iechyd meddwl i’r gymuned amaethydddol. Hefyd grantiau i Fynwent Eglwys Henllan ar gyfer torri gwair, etc, Capel MC Henllan  tuag ar organ newydd , Grwp Gweithgarwch Plant Henllan, Sioe Flodau Henllan, Clwb Peldroed Henllan a “ Brownies “ a “ Guides “ Henllan. Diolch yn ddyledus i Nia Bellis a Delyth Jones am eu cymorth gyda mater y Parc Uchaf. Diolch hefyd i Gareth Owen Evans am ofalu am doiledau cyhoeddus Henllan. Diolch hefyd i Ian Carrie am ei gymorth yn ystod y flwyddyn.

5.CYNRYCHIOLI’R CYNGOR AR BWYLLGORAU ERAILL

A.Elusennau Plwyf Henllan                             Merfyn Roberts

B.Pwyllgor Cymorth Cristnogol                      Gwyn Roberts

C.Pwyllgor Ardal Un Llais Cymru                    Ian Carrie a Stephanie Kelly

D.Llywodraethwr Ysgol Henllan                     Gwyn Roberts

Penderfynwyd cymeradwyo Rheolau Sefydlog Cyngor Cymuned Henllan am flwyddyn arall heb newid.

 Daeth y cyfarfod i ben am 7.20pm