1.PRESENNOL
Y Cynghorwyr Jackie Jones ( Cadeirydd ) Ian Carrie ( Is-Gadeirydd ) Gwyn Roberts, Merfyn Roberts, Clwyd Spencer, Tom Marshall, Nia Bellis, Cynghorwyr Sir Ddinbych Pauline Edwards, Delyth Jones a’r Clerc, Stephanie Kelly
2.YMDDIHEURIADAU
Y Cynghorydd Cerian Jones a Cynghorydd Sir Ddinbych Geraint Lloyd-Williams
3.DATGANIADAU O DDIDDORDEB
Clwyd Spencer a Gwyn Roberts – y ddau’n aelodau pwyllgor Clwb Peldroed Henllan
4.TRAFODAETH AG AELODAU’R CYHOEDD
Roedd dau wedi dod i’r cyfarfod i drafod gwli wrth 9 a 10 Godre’r Garn yn gorlifo ar adegau.Gofynnodd y Cynghorydd Pauline Edwards iddynt anfon ebost ati hi iddi gael cysylltu a Chyngor Sir Ddinbych. Cafwyd cwyn hefyd am ganhghennau coed wrth Lon y Garn yn ei gwneud hi’n anodd gweld. Bydd y Cynghorydd Ian yn cysylltu a pherchennog y Garn
5.CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cadarnhawyd cofnodion 5ed Mai 2026 a’u harwyddo gan y Cadeirydd
6.ARAFU CERBYDAU YN HENLLAN
Trafodwyd mesur cyflymder cerbydau mawr yn trafaelio i fyny ac i lawr Lon y Garn
7.COEDLAN HENLLAN A’R ARDD WENYN
Cadarnhaodd Ian Carrie iddo archebu planhigion bioamrywiol.Soniwyd bod Rob, un o drigolion Henllan eisioes wedi llenwi un gwely gyda planhigion. Penderfynwyd anfon llythyr o ddiolch iddo am ei waith called.
8.Y PARC UCHAF
Derbyniwyd y drwydded, ond mae’r dyddiad arni’n anghywir. Ni chlywyd os oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd camau ynglyn a hysbysebu’r trosglwyddiad arfaethedig a bydd y Cynghorydd Delyth Jones yn gwneud ymholiadau.
9.PEIRIANT TORRI GWAIR
Dim newydd
10.CYRSIAU HYFFORDDI UN LLAIS CYMRU
Dylai unrhyw un a diddordeb gysylltu a Stephanie neu Ian
11.CYLLID
| 22 Ebrill 2026 | Neuadd yr Eglwys | LLogi ( Ebrill ) | 35.00 |
| 22 Ebrill 2026 | Harold Smith | Gwasanaethau cyflogi | 180.00 |
| 29 Ebrill 2026 | Ian Carrie | Papur Toiled | 18.58 |
| 6ed Mai 2026 | Neuadd yr Eglwys | Yr ardd Wenyn | 200.00 |
| 6ed Mai 2026 | Neuadd yr Eglwys | Llogi ( Mai) | 35.00 |
| 12 Mai 2026 | Stephanie Kelly | Costau ( Mai ) | Preifat |
| 12 Mai 2026 | Stephanie Kelly | Cyflog | Preifat |
| .
|
Cyllid y Wlad | Treth | 7.60 |
| 26 Mai 2026 | Gareth O Evans | Cyflog ( Ol daliad) | Preifat |
| 29 Mai 2026 | Clear Councils | Yswiriant | 700.30 |
Derbyniwyd tri amcan-bris am netin i’r Parc Uchaf sef £2234, £2092 a £2874. Mae grant am £1283 a bydd modd cael ad-daliad o’r TAW, felly’r gost i’r Cyngor fyddai £578.06, £469.93 neu £632.00.Penderfynwyd derbyn £459.93 ( amcan-bris £2092 ) Ymataliodd Clwyd Spencer a Gwyn Roberts rhag pleidleisio. Bydd Ian yn cysylltu a Chyngor Sir Ddinbych ynglyn a’r grant.
12.CEISIADAU CYNLLUNIO
28/2026/0227/TC Cwympo onnen. Dim gwrthwynebiad ond teimlwyd y dylid plannu coeden yn ei lle. Bydd Stephanie’n ebostio’r Swyddog Coed.
13.GOHEBIAETH A CHEISIADAU GRANT
Roedd Ian wedi derbyn cwyn am swp anferth o bridd a adawyd ar Cil y Coed yn ymyl tai Maes Sadwrn. Mae Ian wedi e-bostio perchennog y safle
14.MATERION FFYRDD
Mae cerbydau trwm wedi taro arwyddion ar Ffordd Llannefydd. Bydd Ian yn cael golwg ar yr arwyddion
15.MATERION CYNGOR SIR DDINBYCH
Bydd cyfle i gynghorwyr tref fynd i gyfarfod i drafod cyllideb ffyrdd. Yn ol y Cynghorydd Delyth Jones, mae’n bendant bod y gwaith ar ffyrdd Meifod a Bryn y Garn ar y cynllun. Mae cytundeb Ysbyty Gogledd Cymru wedi’I harwyddo. Mae pryder wedi bod am ddiogelwch yr adeilad.
Mae heddlu Dinbych yn trefnu cyfarfod yn Neuadd y Dref i drafod cynllun i wella canol y dref a datblygu marchnad. Nid yw Cyngor Tref Dinbych yn awyddus i brynu Neuadd y Dref, ond mae trafodaethau ynglyn a’r adeilad yn digwydd.
Mae’r toiledau cyhoeddus wedi cau, ond caiff y cyhoedd ddefnyddio rhai’r Hwb.
Bydd cyfarfod cyhoeddus brys am 6.45 ar 12ed Mehefin yn Ysgol Twm o’r Nant i gael gwybodaeth am y newidiadau yn yr hinsawdd.
16.MATERION ERAILL YN CODI O’R COFNODION
Dim
17.MATERION BRYS DAN ADRAN 100(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972
Dim
Cyfarfod nesaf y Cyngor – Nos Fawrth 7ed Gorffennaf 2026 am 7.30 yn Neuadd yr Eglwys Henllan

